Rolant Tomos: Beth sy' 'na i de?
- Cyhoeddwyd
Mae Rolant Tomos o Sain Nicolas ym Mro Morgannwg yn rheolwr prosiect Agora, un o gynlluniau Menter a Busnes sy'n helpu i ddatblygu busnesau bwyd newydd.
Mae hefyd yn rhedeg bragdy Tomos a Lilford sy'n bragu cwrw â chynhwysion anturus. Mae'n dad i ddau o blant, Mali ac Osian. Mae'n mwynhau coginio, er ei bod yn dipyn o sialens weithiau i blesio pawb wrth baratoi bwyd i'r teulu.
Beth sy' i de heno?
Pasta Tomato Sôs.
Pwy sy' rownd y bwrdd?
Mali, Osi (y plant), Hannah (y wraig) a fi.
Beth yw'r sialens mwyaf i ti wrth benderfynu beth sy' i de?
Plesio pawb.
Beth yw'r pryd wyt ti'n dipyn o arbenigwr am ei wneud?
Pasta tomato sôs - wedi ei fwyta o leiaf unwaith bob wythnos ers 20 mlynedd - felly mae Mali yn deud mod i 'di goginio fo dros fil o weithiau!
Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?
Dibynnu ar ba fath o argyfwng... mae cyri fel arfer yn datrys argyfyngau moesol, emosiynol a thrychinebau naturiol.
Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?
Do, llai o chillis achos y plant. Mwy o fwyd lleol achos fod o'n bwysig.
Beth yw dy hoff bryd o fwyd?
Cregin gleision neu fylchog. Rymp oen i ddilyn.
Beth wyt ti'n ei fwyta er ei fod yn pigo'r cydwybod?
Dim byd - fydda' i byth yn gwrando ar fy nghydwybod.
Beth yw'r peth mwya' anghyffredin ti wedi ei fwyta/goginio?
Coginio - Cyw iâr a banana.
Bwyta - Hufen iâ Foie Gras.
Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?
Pasta pys a chig moch Mei, fy mrawd.
Beth yw dy hoff gyngor coginio?
Coginio o'r galon - mae o wastad yn blasu'n well.
Beth yw dy hoff bryd o fwyd erioed?
Pryd diwrnod fy mhriodas. Bwyd, gwin a chwmni hyfryd.
Oes 'na rhywbeth wnei di ddim bwyta?
Tiwna tin - ych a fi!
Hefyd o ddiddordeb: