"Cyhoedd yn talu mwy o dreth am lai o wasanaethau"
- Cyhoeddwyd
Yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd, mae'r cyhoedd yn talu mwy o dreth am lai o wasanaethau - ac mae angen trefn newydd o ariannu llywodraeth leol.
Mae'r adroddiad yn dangos bod toriadau i'r gyllideb gan Lywodraeth Cymru yn rhoi cynghorau dan bwysau i ddefnyddio treth cyngor i ariannu gwasanaethau.
Dywedodd yr ymchwilwyr bod y system dreth cyngor yn annheg, ac mae pwysigrwydd y dreth wrth godi arian yn cryfhau'r ddadl dros sefydlu system newydd.
Mae Cymru Fyw wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.
Mae cynghorau yn derbyn y rhan fwyaf o'u harian gan Lywodraeth Cymru, ond mae'r grant yna wedi lleihau dros y 10 mlynedd diwethaf oherwydd toriadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ers 2009/10, mae'r canran o arian sydd wedi dod o dreth cyngor wedi codi o 13.8% i 19%.
Mae'r bil treth gyfartalog ar gyfer eiddo Band D yng Nghymru yn £1,492 eleni, sydd wedi codi o £1,086 yn 2009/10.
Er bod y dreth wedi codi, mae'r toriadau i'r arian mae'r Llywodraeth yn ei gyfrannu yn golygu fod gan y cynghorau llai o arian i'w wario.
Mae'r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dweud fod treth y cyngor yn annheg oherwydd ei fod yn cael ei seilio ar eiddo ac nid ar allu'r trethdalwr i dalu.
"Mae'r twf yn y ddibyniaeth ar dreth cyngor i ariannu gwasanaethau lleol yn gwneud yr achos yn gryf am newid y dreth", yn ôl yr adroddiad.
Dywedodd Guto Ifan, un o'r awduron: "Mae'n glir o'n canfyddiadau fod trethdalwyr yn talu mwy am lai o wasanaethau.
"Ein cred ni yw y bydd treth y cyngor yn parhau i godi ac fe alle fod yn chwarter o holl arian llywodraethau lleol erbyn 2023/24, wrth i'r awdurdodau geisio trefnu eu cyllidebau a mynd i'r afael â thwf yn y galw am eu gwasanaethau."
Er gwaetha' toriadau'r Llywodraeth, mae'r galw am wasanaethau'r cyngor yn parhau.
Mae'r adroddiad yn dangos y twf mawr sydd wedi bod yn y gost o ofalu am blant sydd yng ngofal awdurdodau lleol.
Rhwng 2010 a 2018, fe wnaeth y nifer o blant oedd mewn gofal dyfu o 1,710, gan godi'r swm oedd yn cael ei wario o draean, sef rhyw £96m.
Beth yw effaith toriadau llywodraeth leol?
Mae'r adroddiad yn dweud bod:
Toriadau o 28.5% o ran ffyrdd a thrafnidiaeth;
Gwariant ar gynllunio a chynllunio economaidd wedi ei dorri gan 55.4%;
Mae llyfrgelloedd wedi wynebu toriadau o 36.3%;
Gwariant ar ysgolion yn £324 y disgybl (5.5%) yn llai mewn termau real nag yn 2009/10;
Mae gwariant y pen ar ofal cymdeithasol ar gyfer rhai sydd dros 65 oed wedi cwympo gan £157 (14.8%) er iddo dyfu mymryn y llynedd.
Mae Cymru Fyw wedi gofyn am ymateb gan Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2018