Sir Benfro yn wynebu cynnydd treth cyngor o 10%

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Sir BenfroFfynhonnell y llun, Humphrey Bolton

Mae trigolion Sir Benfro yn wynebu cynnydd o 10% mewn taliadau treth cyngor yn ogystal â thoriadau o £15.5m i wasanaethau cyhoeddus, fel rhan o gynllun y cyngor i arbed arian.

Roedd swyddogion y cyngor wedi rhybuddio y byddai rhaid i dreth cyngor godi hyd at 28% er mwyn cynnal gwasanaethau.

Ond yn hytrach, mae'r cyngor wedi awgrymu toriadau o 8% ym mhob adran ac eithrio ysgolion a'r gwasanaethau cymdeithasol.

Fe gododd treth cyngor Sir Benfro 12.5% y llynedd - y cynnydd uchaf yng Nghymru - ond roedd costau trigolion y sir dal yn is nag unrhyw ran arall o Gymru.

Dywedodd Bob Kilmister, aelod o gabinet y cyngor sir, wrth ei gyd gynghorwyr ddydd Llun y bydd rhaid taclo diffyg o £19m drwy gyfuniad o doriadau, cynilo a chynnydd mewn treth cyngor.

Byddai cynnydd o 10% yn ychwanegu ychydig llai na £2 yr wythnos i gostau treth cyngor tŷ yn haen D, ac am gyfanswm o £1,093 y flwyddyn byddai'r costau dal yn llai i gymharu â Cheredigion a Sir Gar.

Ymysg yr adrannau sydd yn debygol o weld toriadau mae priffyrdd, diwylliant a chynllunio, tra bod gwariant ar ysgolion ac ar wasanaethau cyhoeddus wedi ei warchod, yn ôl adroddiad y cabinet.

Cytunwyd ar y gyllideb drafft ar gyfer 2019/20 ddydd Llun a bydd yn cael ei ystyried mewn ymgynghoriadau cyhoeddus, gan bwyllgorau archwilio a gan y cyngor sir dros yr wythnosau nesaf.

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ym mis Chwefror.