Drakeford yn agosáu at bleidlais arall wedi rhybudd dim cytundeb

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford mai refferendwm arall yw'r "unig opsiwn" petai'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn barod i gefnogi refferendwm arall os na all Aelodau Seneddol ddod i gytundeb dros Brexit.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai Brexit heb gytundeb yn "cael ei deimlo gan bawb".

Fe wnaeth gweinidogion Llywodraeth Cymru rybuddio am oblygiadau Brexit heb gytundeb mewn cyfarfod yn y Senedd ddydd Mawrth.

Cyhuddodd arweinydd UKIP Gareth Bennett y llywodraeth o godi bwganod, a dywedodd yr AC Ceidwadol, Darren Millar bod ymgyrch gweinidogion i frawychu'r cyhoedd "ar steroidau".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod realiti Tŷ'r Cyffredin yn gwneud cynllunio wrth gefn ar gyfer Brexit heb gytundeb yn angenrheidiol.

'Bwrw ymlaen yn ystyfnig'

Mewn symudiad anarferol cafodd mwyafrif o fusnes y Cynulliad am y diwrnod ei ganslo er mwyn gwneud lle am ddatganiadau am ddarpariaethau Brexit.

Daw hyn wedi i gytundeb y Prif Weinidog, Theresa May i adael yr UE gael ei wrthod gan ASau.

Dywedodd Mr Drakeford mai'r trafod dros yr wythnos nesaf yw'r "cyfle olaf" i greu cytundeb Brexit sy'n galluogi'r DU i barhau yn y farchnad sengl a'r undeb tollau.

"Os na ellid gwneud hynny, os na all y Senedd gytuno ar safbwynt mwyafrifol sy'n diogeli ein buddiannau economaidd dros y tymor hir, mae gadael 'heb gytundeb' yn gam mor ddifrifol fel ein bod yn gorfod wynebu mai'r unig opsiwn sydd ar ôl yw pleidlais gyhoeddus arall i ddatrys yr anghytundeb llwyr," meddai.

Cyn y datganiadau fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford gyhuddo Mrs May o "fwrw ymlaen yn hollol ystyfnig â dim ond mân newidiadau i'w chytundeb aflwyddiannus".

"Dylai caniatáu'r sefyllfa drychinebus o ymadael heb gytundeb fod y tu hwnt i unrhyw Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae'n rhaid i'r Prif Weinidog wrthod yr opsiwn hwnnw yn llwyr ac ymestyn Erthygl 50," meddai.

"Byddai hynny'n rhoi amser i Lywodraeth y Deyrnas Unedig newid cyfeiriad ac ymrwymo i ailagor y trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd i sicrhau Brexit sy'n amddiffyn swyddi a'r economi."

Ychwanegodd Mr Drakeford bydd ei weinidogion yn amlinellu'r "gwir risg o Brexit di-gytundeb ar iechyd, yr economi, trafnidiaeth a ffermio".

Cafodd pryderon eu hamlygu ynglŷn â chyflenwad deunyddiau ar gyfer y GIG, amhariad ar gludiant nwyddau a'r rhwystrau i allforion allai fod yn niweidiol i amaethyddiaeth a'r sector nwyddau.