Dau newid i dîm rygbi merched Cymru i herio'r Eidal

  • Cyhoeddwyd
Elinor SnowsillFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae tîm rygbi merched Cymru wedi gwneud dau newid ar gyfer eu gêm yn erbyn Yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Er gwaethaf y golled drom i Ffrainc ddydd Sul, mae'r prif hyfforddwr, Rowland Phillips wedi cadw ffydd gyda mwyafrif y tîm a ddechreuodd y gêm honno.

Mae'r ddau newid yn yr ail reng, gyda Natalia John a Gwen Crabb yn camu mewn.

Roedd rhaid i'r clo, Mel Clay, dynnu 'nôl o'r garfan oherwydd anaf i'w choes.

Mae Siwan Lillicrap yn symud i safle'r wythwr tra bod Beth Lewis yn dychwelyd i safle'r blaen asgellwr.

Bydd y gic gyntaf yn Stadio Via del Mare, Lecce am 19:00 (amser Cymru) ddydd Sadwrn.

Tîm Cymru

Lauren Smyth; Jasmine Joyce, Hannah Jones, Alicia McComish, Lisa Neumann; Robyn Wilkins, Keira Bevan; Caryl Thomas, Carys Phillips (c), Amy Evans, Natalia John, Gwen Crabb, Bethan Lewis, Manon Johnes, Siwan Lillicrap.

Eilyddion: Kelsey Jones, Cara Hope, Cerys Hale, Alisha Butchers, Alex Callender, Ffion Lewis, Elinor Snowsill, Jess Kavanagh.