'Nifer o bryderon' am ddatblygiad tai yn Llanbed

  • Cyhoeddwyd
Llanbedr Pont SteffanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw adeiladu 95 uned rhwng stadau Maes y Deri a Bryn Steffan ar gyrion y dref

Mae "nifer o bryderon" wedi codi yn sgil cynllun i adeiladu bron i 100 o dai yn Llanbedr Pont Steffan.

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal nos Iau i drafod cais cynllunio sydd wedi ei gyflwyno i Gyngor Ceredigion.

Yn ôl un cynghorydd lleol mae'r cynllun i adeiladu 95 uned ar ddarn o dir rhwng stadau Maes y Deri, Pen Bryn a Bryn Steffan yn cynnwys mwy na'r nifer sydd wedi clustnodi i'r dref gyfan yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Dywedodd datganiad gan Gyngor Ceredigion bod y cais "ar hyn o bryd yn cael ei ystyried gan adran gynllunio'r Cyngor Sir".

Dywedodd y Cynghorydd Rob Phillips, oedd yn cadeirio'r cyfarfod cyhoeddus, bod "nifer o bryderon" gan bobl leol ynglŷn â'r datblygiad.

"Mae rhai yn poeni am y pwysau ar wasanaethau lleol, gan fod datblygiad o'r maint yma yn debygol o gynyddu poblogaeth y dre' yn sylweddol," meddai.

Dywedodd bod nifer hefyd yn poeni am effaith y datblygiad ar feddygfeydd ac ysgolion y dref, a bod nifer wedi mynegi pryderon ynglŷn â thraffig a llifogydd posib.

'Angen datblygu'

"Wrth gwrs, mae pobl yn cydnabod ac mae'r cyngor tre'n cydnabod bod angen datblygu yn y dre'," meddai'r Cynghorydd Phillips.

"Mae angen tai newydd ar gyfer ein pobl ni ac mae angen i'r dre' dyfu er mwyn parhau i ffynnu.

"Ond mae pryderon am biti pa mor addas yw datblygiad o'r maint, a pha mor addas yw datblygiad o'r maint mewn un lle."

Esboniodd bod y cynllun yn "cymryd bob un" o'r tai sydd wedi eu clustnodi ar gyfer Llanbedr Pont Steffan yn y Cynllun Datblygu Lleol, dolen allanol - ac "ychydig yn fwy" eto.

Bydd Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yn cyfarfod i drafod y cynlluniau, gan ystyried yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod cyhoeddus.

Maent hefyd yn bwriadu annog eraill i fynegi eu barn am y cynlluniau.

Mae hi'n dal i fod yn ddyddiau cynnar, wrth i Gyngor Cereidigon bwysleisio mae "ystyried" y cais cynllunio maen nhw ar y hyn o bryd.