Teulu'n dianc rhag ymddygiad gwrth-Islamaidd
- Cyhoeddwyd
Mae teulu Mwslimaidd wedi dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi gorfod gadael eu cartref ar ôl dioddef ymddygiad gwrth-Islamaidd.
Roedd Ayesha Abdol-Hamid, 23, yn ei harddegau pan wnaeth ei rhieni benderfynu gadael ardal Castell-nedd a dechrau bywyd newydd yng Nghaerdydd.
Mae sefydliad sy'n cefnogi Mwslimiaid wedi rhybuddio bod troseddau casineb gwrth-Islamaidd ar gynnydd yng Nghymru.
Fe wnaeth lluoedd heddlu Cymru dderbyn 63 cwyn y llynedd yn ymwneud â throseddau casineb yn erbyn Mwslimiaid.
Ond yn ôl rheolwr mudiad Muslim Engagement & Development (MEND) yng Nghymru a gorllewin Lloegr, Sahar Al-Faifi, mae'n debygol bod nifer y digwyddiadau yn llawer uwch mewn gwirionedd.
Dywedodd Ms Al-Faifi bod 43% o ddioddefwyr ddim yn rhoi gwybod i'r heddlu.
Cafodd Ms Abdol-Hamid - sydd â mam o Pacistan a thad o Gymru - ei magu ym mhentref Sgiwen, Castell-nedd Port Talbot.
"Fe aeth hi'n ddrwg - roedd pobl gyda mwgwd yn dod draw ac amgylchynu ein tŷ yn y nos," meddai.
"Fe wnaeth rhywun daro hoelen trwy ein cloch drws, cafodd sbwriel ei ddympio yn ein gardd ac roedd 'na alwadau ffôn cas iawn hefyd."
'Amddiffyn fy hun'
Dywedodd Ms Abdol-Hamid ei bod wedi cael ei thargedu yn yr ysgol hefyd.
"Ar fy niwrnod cyntaf fe wnaeth 'na fachgen fy nharo," meddai.
"Wrth dyfu fyny ro'n i'n meddwl ei bod yn beth normal i orfod amddiffyn fy hun oherwydd lliw fy nghroen."
Dywedodd mam Ms Abdol-Hamid, Shahida Nasreen Kahn, eu bod wedi penderfynu gadael Sgiwen ar ôl iddyn nhw dderbyn galwad ffôn bygythiol yn 2010.
"Roedden ni'n teimlo ein bod yn gorfod ffoi," meddai.
Dywedodd Ms Al-Faifi bod merched yn fwy tebygol o ddioddef troseddau casineb gwrth-Islamaidd.
"Er efallai bod merched Mwslimaidd yn teimlo'n ddiogel gan amlaf, dim ond un digwyddiad cas sydd ei angen i daro eu hyder," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2017