Dyn wedi marw ar ôl i goeden gwympo ar fan yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr yn symud y goeden o'r B4306
Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr yn symud y goeden o'r B4306

Mae dyn wedi marw ar ôl i goeden gwympo ar ei fan yng Nghwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y B4306 rhwng Pontyberem a Llan-non ychydig wedi 10:00 fore Gwener.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am unrhyw dystion i'r digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Fe wnaeth coeden fawr gwympo ar draws y ffordd a tharo yn erbyn y fan.

"Yn drist iawn bu farw'r gyrrwr yn y fan a'r lle ac mae swyddogion yn rhoi cefnogaeth i'w deulu."