Heledd Bebb: Beth sy' 'na i de?

  • Cyhoeddwyd

Mae Heledd Bebb, o Sain Ffagan ger Caerdydd, yn gyfarwyddwr cwmni ymchwil OB3. Yn fam i ddau o blant, Cian ac Osian, mae bywyd yn brysur, ond mae mynd ar wyliau'n gyfle da i'r teulu cyfan brofi bwydydd newydd...

Ffynhonnell y llun, Heledd Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Heledd a'r plant yn mwynhau eu swper

Beth sy' i de heno?

King Prawn Linguine mewn saws tomato syml - er 'Pasta Crancod Bach' yw enw'r plant ar y pryd. Mae'n ymddangos ar y fwydlen swper-canol-wythnos yn gyson iawn ac yn dipyn o ffefryn yma. Mae'n amrywio bob tro dwi'n ei wneud, gan ddibynnu ar beth yn union sydd yn yr oergell.

Ffynhonnell y llun, Heledd Bebb

Pwy sy' rownd y bwrdd?

Y teulu i gyd. Dwi'n credu fod eistedd lawr gyda'n gilydd i fwyta ac i sgwrsio, heb unrhyw declynnau neu deledu i dynnu'n sylw, yn bwysig iawn.

Beth yw'r sialens fwyaf i ti wrth benderfynu beth sy' i de?

Amser! Gan amla', erbyn mod i'n casglu'r plant maen nhw ar lwgu, a bydd gen i lai na awr cyn bod angen eu cael nhw allan eto at ryw weithgaredd neu'i gilydd, felly mae angen paratoi rhywbeth yn sydyn.

Beth yw'r pryd wyt ti'n dipyn o arbenigwr am ei wneud?

Mae pavlova yn bwdin sy'n ymddangos yn go aml ar y fwydlen pan ddaw pobl draw am swper y dyddiau hyn.

Ffynhonnell y llun, Heledd Bebb

Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?

Wyau - wedi sgramblo, wedi berwi, mewn omlet... sydyn a maethlon!

Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?

Mi oeddwn i'n dipyn mwy ffysi pan oeddwn i'n iau, ond wedi magu tipyn o ddiddordeb mewn bwyd - o ran ei goginio ac o ran bwyta allan - dros y blynyddoedd. Ers cael plant mae tipyn llai o amser a chyfle i wneud y naill na'r llall yn iawn.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Stecen dda sydd 'mond wedi gweld y badell ffrio am rai eiliadau! Ac i bwdin, Crème Brûlée . Os yw ar y fwydlen, dwi'n ei chael hi'n anodd peidio mynd amdani!

Ffynhonnell y llun, Heledd Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Yn mwynhau ei hoff bwdin, Crème Brûlée

Beth wyt ti'n ei fwyta er ei fod yn pigo'r cydwybod?

Gormod o siocled debyg - dwi'n gwybod nad yw'n dda i mi!

Beth yw'r peth mwya' anghyffredin ti wedi ei fwyta/goginio?

Archebais lond swper o lysiau wedi'u piclo yn Rhufain i wyth ohonom mewn camgymeriad yn ddiweddar. Allai'm dweud fod unrhyw un wedi cael llawer o flas ar y bwyd y noson honno. Bu rhaid mynd ymlaen i dafarn am pizza wedyn i lenwi'n boliau!

Ffynhonnell y llun, Heledd Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Osian ar wyliau yn Bilbao yn mwynhau ei escargot!

Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?

Prydau bwyd mae fy nhad yn eu coginio. Mae ei rysáit ar gyfer 'Cyw Iâr Dewi Sant' yn llawn atgofion melys o adre.

Beth yw dy hoff gyngor coginio?

Peidio dilyn y rysáit i'r eithaf bob tro - dilyn greddf rhyw ychydig (sy'n haws pan fo gennych chi ychydig o wybodaeth a phrofiad dan eich belt!)

Beth yw dy hoff bryd o fwyd erioed?

Prydau bwyd ar wyliau yw fy hoff rai i - waeth beth yw'r pryd. Mae profiadau bwyta yn rhan fawr o atgofion gwyliau, ac mi af ati i chwilio am lefydd diddorol neu wahanol i'w trio. O ganlyniad, mae'r plant wedi magu blas at bethau digon anarferol yn ddiweddar - calamari, esgargot, halloumi...

Oes 'na rywbeth wnei di ddim ei fwyta?

Ddim felly - mae yna ambell beth dwi ddim yn ei hoffi rhyw lawer... ond mi dria' i'r rhan fwyaf o bethau.

Ffynhonnell y llun, Heledd Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu'n mwynhau pryd o fwyd môr (gyda digon o calamari i'r plant) yn Slofenia dros yr haf

Hefyd o ddiddordeb: