Anaf catastroffig wedi lladd dyn mewn storm yn Llandudno
- Cyhoeddwyd
Clywodd cwest i farwolaeth dyn oedrannus yn Llandudno iddo ddisgyn wrth gerdded yn ystod storm ym mis Medi 2018.
Roedd James Tattersall, 85, yn cerdded yn Stryd Mostyn gyda'i wraig Anne pan gafodd y ddau eu taro gan wyntoedd cryfion.
Disgynnodd y ddau i'r llawr ac fe gafodd Mr Tattersall o Brierfield yn Sir Gaerhirfryn ergyd i gefn ei ben.
Oherwydd yr anaf cafodd Mr Tattersall waedlif ar yr ymennydd.
Cafodd driniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan a bu farw y diwrnod canlynol.
Yn ystod y cwest fe ddarllenwyd datganiad gan ei weddw Anne Tattersall. Ynddo mae'n disgrifio sut aeth y ddau am baned ac roedden nhw'n cerdded yn Stryd Mostyn pan gawson nhw eu taro gan hyrddiad o wynt.
Yn fuan wedyn cawson nhw eu llorio gan ragor o wynt, ac fe gawson nhw eu taro i'r llawr. Daeth dau blismon i gynorthwyo ac fe gludwyd Mr a Mrs Tattersall i'r ysbyty mewn dau ambiwlans
"Fe gawsom 55 mlynedd hapus gyda'n gilydd." meddai. Roedden nhw'n dathlu eu penblwydd priodas pan ddigwyddodd y ddamwain.
Cofnodwyd bod Mr Tattersall wedi marw yn ddamweiniol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2018