Priodas penwythnos: Y gorau o ddau fyd?
- Cyhoeddwyd
Ydy bywyd yn well mewn cwpl? Neu ydy pobl sengl yn hapusach? Mae ail wythnos Chwefror yn dathlu'r ddau beth - San Ffolant i'r cariadon ar 14 Chwefror a Dydd Pobl Sengl ar 15 Chwefror.
Ond tybed ydy hi'n bosib cael y gorau o'r ddau fyd?
Mewn trafodaeth ar fyw bywyd sengl ar raglen Yr Hanner Call, Radio Cymru, soniodd Helen Scutt o Landeilio am ei pherthynas anghonfensiynol hi â'i gŵr, Bill.
"Mae Bill yn gweithio a byw yn Llundain yn ystod yr wythnos ac yn dod nôl nos Iau neu nos Wener a ni'n cael bywyd priod dros y penwythnosau," meddai.
"Nath e' hynna drwy gydol yr amser roedd y plant yn fach a nawr maen nhw yn y coleg.
"Mae bywyd sengl 'da fi yn yr wythnos yn llawn ffrindie, llawn gweithgareddau... Ar y penwythnos, os nad y'n ni'n neud rhywbeth fel mynd i barti ni jyst yn hala'r amser gyda'n gilydd.
"Fi'n ffeindio fe'n rhwydd i fyw bywyd sengl achos dwi'n gwybod bod Bill yn dod nôl ar y penwythnos."
Mae hi a Bill gyda'i gilydd ers dros 30 mlynedd.
"Fi'n credu bod e 'di helpu bod Bill a finne ddim yn gweld ein gilydd am gyfnodau achos mae'n cadw pethau'n ffres," meddai Helen.
"Fi'n credu bod rhai pobl yn rhoi lan ar fywyd rhywiol a phethau, a ti ffaelu gwneud hynna os y'ch chi eisiau bod mewn priodas am weddill eich hoes.
"Fi'n credu'r dyddie 'ma fod rhaid ichi wir gweithio arno fe. Fi a Bill yn rili gweithio ar ein priodas ni ac mae'n dda.
"Pan mae'n dda, mae'n rili, rili dda, pan mae'n wael, mae'n awful!"
Gweld pobl eraill?
Datgelodd Helen hefyd ei bod wedi dweud wrth ei gŵr na fyddai ots ganddi iddo gysgu gyda phobl eraill.
"Mae Bill a finne yn ffrindie gorau. Os bydden i'n dewis gwario amser gyda unrhyw un, y rhan fwyaf o'r amser bydden i'n dewis Bill. Ond sai'n gwybod os dyle pobl fod jyst gydag un person.
"Fi'n berson gwahanol i Bill. Fi wedi dweud wrth fy ngŵr, sdim ots gyda fi os bydde fe'n cysgu gyda rhywun arall yn Llundain, wirioneddol, sdim ots gyda fi.
"Ond fi'n gwybod os bydden i'n cysgu o gwmpas bydde fe'n lladd e. Dwi ddim yn 'neud e achos bydde fe'n lladd fe."
Er fod Helen yn credu na ddylai neb fod ar ei ben ei hun mae'n dweud fod pob perthynas yn golygu cyfaddawd.
"Er bod e'n ffrind gorau mae rhai pethau yn cymhlethu. Dwi ddim falle yn gallu bod y person dwi eisiau bod, neu y gallen i fod, achos os ti'n byw gyda rhywun ti wastad yn gorfod compromeisio - ble chi'n mynd yn y nos, pa restaurant, mae lot o compromise mewn perthynas.
"Ond wedai un peth, os bydden i a Bill byth yn gwahanu, neu os bydde rhywbeth yn digwydd, bydden i byth yn byw gyda dyn arall.
"Bydden i falle'n gwario hanner yr wythnos gyda rhywun arall ond bydden i wastad eisiau byw yn tŷ fy hunan, wrth fy hunan."
Dim atebolrwydd
Yn ôl y cyflwynydd Guto Rhun, sy'n byw yng Nghaerdydd, mae llawer o bwysau gan gymdeithas i fod mewn perthynas ond mae'n mwynhau'r ffaith nad ydy o'n atebol i neb ond fo'i hun.
"Mae 'na adegau pan ti'n meddwl y byse'n neis cael rywun i rannu profiadau bywyd efo nhw a chael cwmni ond dwi'n credu mai be' sy'n bwysig ydy ti'n dal yn gallu gwneud popeth fel'na ar dy ben dy hun, ti ddim angen neb arall.
"Ti'n gallu mynd ar dy wyliau ar dy ben dy hun, mae hwnna'n rhywbeth dwi'n caru ei wneud, mynd i drafaelio ar ben fy hun... dwi'n meddwl mod i ddigon hapus efo fy nghwmni fy hun.
"Ond mae'n un o'r pethau yna ti wastad yn meddwl wyt ti'n mynd i ffeindio rhywun, neu pryd ti'n mynd i ffeindio rhywun, a dwi'n credu i fi, y peth gorau wnes i oedd stopio meddwl am hynna.
"Mae'n rhaid iti fod yn hyderus yn ti dy hun, yn hapus yn ti dy hun, yn gwybod yn union pwy wyt ti fel person cyn wyt ti'n gallu dechrau meddwl am fod mewn perthynas neu rannu dy fywyd efo rhywun arall," meddai.
Anodd cyfaddawdu
"Mae pobl yn ofn bod yn sengl," meddai Gaynor Jones sy'n 56 ac yn hapus i fod yn sengl, ffaith sydd wedi ysgogi sawl un i ofyn iddi os ydy hi'n hoyw dros y blynyddoedd.
"Os ti wedi bod yn rhan o gwpl am 25-30 mlynedd mae'n yffach o sioc i'r system bod ti'n gorfod gwneud penderfyniadau ar ben dy hunan.
"Ond gan fy mod i wedi bod ar ben fy hunan am ran fwyaf o fy mywyd, fi'n uffach o benderfynol, a byddai'n anodd iawn i fi gyfaddawdu gyda rhywun.
"Fi'n meddwl bod sefyllfa delfrydol 'da Helen, fi ddim yn credu bydden ni eisiau byw 'da rywun trwy'r amser."
I glywed gweddill y drafodaeth am agweddau at fyw yn sengl, y gost o fod yn sengl, a'r aps sy'n helpu pobl i ddod o hyd i gymar ewch i BBC Sounds.
Hefyd o ddiddordeb: