Galw am eglurder ar gyllid ar ôl Brexit

  • Cyhoeddwyd
brexit

Mae Llywodraethau Cymru a'r Alban wedi galw ar y Trysorlys i roi eglurder ar gyllido wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cyn cyfarfod gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yng Nghaerdydd ddydd Gwener, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn "hanfodol ei bod yn gallu paratoi am Brexit".

Bydd Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, hefyd yn trafod newidiadau Llywodraeth y DU i bensiynau'r sector cyhoeddus.

Daw'r cyfarfod wedi i strategaeth Brexit Theresa May golli pleidlais arall yn Nhŷ'r Cyffredin nos Iau.

Pleidleisiodd ASau o 303 i 258 yn erbyn cynlluniau Mrs May er gwaetha' rhybuddion o Downing Street y gallai colli'r bleidlais niweidio safbwynt trafod y prif weinidog gyda'r UE.

Gobaith Mrs May yw sicrhau newidiadau i'r cymal yn y cytundeb ymadael sy'n ymwneud â'r backstop - sef y cynllun sy'n ceisio osgoi ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon - cyn cynnal pleidlais arall ar y cytundeb terfynol yn San Steffan.

'Testun pryder'

Fore Gwener bydd Ms Evans yn cwrdd â Liz Truss, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ac Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, Derek Mackay.

Cyn y cyfarfod, dywedodd Ms Evans: "Byddaf yn galw am eglurder ynglŷn â'n cyllidebau, ac yn pwyso am ddeialog barhaus ac ystyrlon rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig ynglŷn â'r heriau rydym yn eu hwynebu.

"Gyda'r cloc yn tician wrth inni nesáu at y diwrnod ymadael, mae'n hollol hanfodol sicrhau ein bod yn rhan ganolog o'r broses benderfynu a'n bod yn gallu paratoi ar gyfer effaith Brexit.

"Byddaf yn pwyso hefyd am fwy o eglurder a sicrwydd ynglŷn â'r gost sy'n gysylltiedig â newidiadau Llywodraeth y DU i bensiynau'r sector cyhoeddus, a sut mae'n bwriadu cyllido hynny.

"Ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru ac arweinwyr llywodraeth leol at y Canghellor yr wythnos diwethaf i geisio eglurder. Mae'r awdurdodau lleol wrthi'n llunio'u cyllidebau terfynol ac mae'n destun pryder fod ansicrwydd o hyd ynglŷn â chyllid."

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Rydym yn gweithio'n agos gyda'r llywodraethau datganoledig i sicrhau fod ganddyn nhw'r adnoddau er mwyn gadael yr UE.

"Mae hyn yn cynnwys neilltuo £55m i Lywodraeth yr Alban a dros £30m i Lywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi paratoadau Brexit ar gyfer pob senario yn 2019-20."