Apêl gan rieni dyn o Abertawe sydd ar goll wedi noson allan
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni dyn sydd wedi bod ar goll ers dros wythnos wedi apelio am gymorth y cyhoedd i ddod o hyd i'w mab.
Nid yw Tapiwa Matuwi - sy'n cael ei adnabod gan deulu a ffrindiau fel Tapi - wedi ei weld ers oriau mân fore Iau, 7 Chwefror.
Cafodd y dyn 21 oed o Lansamlet ei weld diwethaf gan ffrindiau am tua 02:00 yng nghlwb nos Fiction ar Stryd y Gwynt (Wind Street) ynghanol y ddinas.
Mae lluniau CCTV ohono yn ardal Gerddi'r Castell am tua 05:00 - tua thair awr yn ddiweddarach.
"Mae'n un o'r cyfnodau anoddaf i ni nawr fel teulu, wyth diwrnod wedi bod a dal ddim yn gwybod ble mae e," meddai'i dad, Munyaradzi Zvada.
Mae teulu a ffrindiau wedi dosbarthu mwy na 8,500 o bosteri o amgylch Abertawe yn apelio am wybodaeth.
"Rydym ni moyn e'n ôl," meddai Mr Zvada. "Mae'n gwybod faint ry'n ni fel rhieni yn ei garu."
Pan gafodd ei weld diwethaf, roedd Tapi yn gwisgo het pêl-fas du gyda logo coch, siaced goch gyda 'Bieber' wedi'i ysgrifennu ar y cefn, a siwmper wen.
Roedd yn gwisgo jîns tywyll ac esgidiau high-top.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2019