Cwpan FA Lloegr: Abertawe 4-1 Brentford

  • Cyhoeddwyd
Daniel James yn erbyn BrentfordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Daniel James achosi pob math o broblemau i Brentford yn yr ail hanner

Mae Abertawe wedi sichrau lle yn wyth olaf Cwpan FA Lloegr wedi perfformiad cofiadwy yn ail hanner eu gêm yn y bumed rownd yn erbyn Brentford.

Daniel James wnaeth achosi'r trafferthion mwyaf i'r gwrthwynebwyr, oedd ar y blaen wedi'r 45 munud cyntaf.

Ond wedi perfformiad siomedig yn yr hanner cyntaf, roedd yna dro ar fyd i dîm Graham Potter wedi'r egwyl.

Dywedodd y rheolwr bod unioni'r sgôr yn gynnar yn yr ail hanner wedi helpu troi'r fantol.

Brentford gafodd y gorau o'r meddiant ym munudau agoriadol gyda sawl ergyd cynnar tua'r gôl.

Ac o fewn hanner awr roedd Ollie Watkins wedi eu rhoi ar y blaen gydag ergyd nerthol i gornel bellaf y rhwyd oedd yn amhosib i'r golwr, Kristoffer Nordfeldt ei harbed.

Yr ymwelwyr felly oedd â'r fantais ar ddiwedd yr hanner cyntaf, ac roedd y tîm cartref wedi methu â chael hyd yn oed un ymgais uniongyrchiol i sgorio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wibiodd Daniel James bron hyd y cae i sgorio gôl unigol arbennig i roi'r Elyrch ar y blaen

Patrwm digon tebyg oedd i chwarae'r munudau cyntaf wedi'r egwyl, ond wedi 48 o funudau roedd yr Elyrch yn gyfartal

Fe darodd gic rydd Bersant Celina y postyn yn gyntaf ac yna llaw'r golwr, Luke Daniels cyn bowndio i gefn y rhwyd.

Ond roedd rhagor o ddrama bedair munud yn ddiweddarach gydag ail gôl Abertawe - ymdrech unigol arbennig gan James.

Fe fanteisiodd yr asgellwr ar gamgymeriad gan Brentford, oedd wedi gorgymhlethu cic rydd yn hanner Abertawe, cyn gwibio gyda'r bêl bron holl hyd y cae i sgorio gôl gofiadwy.

A chyflymder James ar y bêl yn dechrau codi braw, blêr roedd tacl Ezri Konsa arno ychydig funudau yn ddiweddarach pan oedd ganddo gyfle clir i anelu eto am y gôl.

Cafodd ei hel o'r maes ac roedd y dasg o daro'n ôl bellach yn anoddach i 10 dyn Brentford.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Wedi hanner cyntaf rhwystredig, chwaraewyr Abertawe sy'n dathlu heno

Wedi 66 o funudau roedd Celina wedi ymestyn mantais Abertawe ar ôl wfftio ymdrechion nifer o chwaraewyr Brentford i'w atal yn hawdd a tharo'r bêl i'r rhwyd.

Roedd yna orfoledd funud yn ddiweddarach wedi i golwr Brentford arbed ergyd Celina a gollwng y bêl yn daclus o flaen Connor Roberts a rwydodd gyda'i ergyd.

Ond fe benderfynodd y dyfarnwr nad oedd y gôl yn sefyll wedi i'r llimanwr nodi'n hwyr bod yna gamsefyll,

Erbyn hynny, doedd dim amheuaeth mai'r Elyrch fyddai'n ennill ac fe wnaeth y bedwaredd gôl, gan George Byers, yn y funud olaf selio'r fuddugoliaeth.

Bydd Abertawe yn cael gwybod nos Lun pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn rownd yr wyth olaf.