Gweddw: Rhaid rheoli llwyth gwaith i atal marwolaethau

  • Cyhoeddwyd
Dr Malcolm AndersonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dr Malcolm Anderson ladd ei hun ym mis Chwefror y llynedd

Mae gweddw darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd wnaeth ladd ei hun yn dweud bod angen i'r sefydliad fynd i'r afael â llwyth gwaith staff er mwyn ei atal rhag digwydd eto.

Dywedodd Diane Anderson y dylai'r brifysgol fod wedi gwybod bod ei gŵr, Dr Malcolm Anderson, dan bwysau sylweddol cyn ei farwolaeth ym mis Chwefror 2018.

Mae rhaglen BBC Wales Live wedi gweld holiadur mewnol gan y brifysgol sy'n dangos bod traean o'r staff yn credu nad ydyn nhw'n gallu cyflawni gofynion eu swydd heb weithio oriau afresymol.

Dywedodd Prifysgol Caerdydd bod lles staff yn fater maen nhw'n ei gymryd o ddifrif.

'Llwyth gwaith enfawr'

Dywedodd Mrs Anderson bod ei gŵr yn gweithio oriau hir, hyd yn oed ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau, er mwyn marcio, paratoi darlithoedd, ateb e-byst a gosod papurau arholiadau.

Ychwanegodd ei fod wedi dweud wrth y brifysgol ei fod yn ei chael trafferth delio â'r llwyth gwaith.

"Dywedodd wrthyn nhw bod ei lwyth gwaith yn enfawr ac nad oedd yn gallu delio â hynny ond ni ddaeth unrhyw newid," meddai Mrs Anderson.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Diane Anderson bod ei gŵr wedi dweud wrth y brifysgol ei fod yn ei chael yn anodd delio â'r llwyth gwaith

Mae BBC Cymru wedi gweld arfarniadau Dr Anderson gan y brifysgol ar gyfer 2015, 2016 a 2017, ble mae'n codi pryderon am weithio oriau hir, ac yn dweud nad yw'n gweld digon ar ei deulu nac yn gallu cymryd gwyliau oherwydd ei lwyth gwaith.

Roedd yn delio â dros 600 o fyfyrwyr - nifer oedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf yn ôl ei wraig.

Ar y diwrnod y bu farw roedd yn marcio 418 o bapurau arholiad ac yn paratoi rhagor o ddarlithoedd.

Roedd newydd gytuno i gymryd rôl arall gyda'r Ysgol Fusnes hefyd, oedd yn golygu mwy o waith, ond yn ôl Mrs Anderson roedd yn teimlo nad oedd yn gallu gwrthod am y byddai'n cyfrif yn ei erbyn yn y dyfodol.

Clywodd y cwest i farwolaeth Dr Anderson y llynedd ei fod wedi ysgrifennu dau nodyn cyn lladd ei hun - un at ei deulu a'r llall yn sôn am bwysau ei waith a gweithio oriau hir.

'Ymroddedig a hoffus'

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd bod Dr Anderson yn "aelod ymroddedig a hoffus o staff y brifysgol".

Ond dywedodd na fyddai'r brifysgol yn gwneud sylw cyhoeddus ar yr achos oherwydd eu parch tuag at ei deulu.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dr Malcolm Anderson adael gwraig a thair merch

Yn dilyn y cwest i'w farwolaeth fe wnaeth 600 aelod o staff arwyddo llythyr agored wedi'i gyfeirio at is-ganghellor, bwrdd gweithredol a chyngor Prifysgol Caerdydd yn galw am weithredu i atal staff rhag gorfod delio â llwyth gwaith gormodol.

Mae BBC Wales Live wedi siarad â 12 aelod arall o staff y brifysgol sy'n credu bod pwysau gwaith wedi cyrraedd lefel argyfyngus.

Mae nifer yn beirniadu system amserlennu'r brifysgol - y Workload Allocation Model - sy'n rhoi nifer penodol o oriau ar gyfer gwahanol ddyletswyddau pob aelod o staff.

Galw am newid system

Dywedodd yr Athro Victoria Wass o'r Ysgol Fusnes bod y system yn tanamcangyfrif faint o amser mae hi'n cymryd i gyflawni tasgau allweddol, ac nad yw'n ystyried rhai dyletswyddau o gwbl.

"Rwy'n cael tair awr i baratoi darlith awr o hyd," meddai.

"Ond does dim ystyriaeth o'r faith ei bod wedi cymryd wyth neu naw awr o waith er mwyn paratoi'r ddarlith."

Ychwanegodd yr Athro Wass bod angen "diwygio neu gael gwared ar" y system amserlennu.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prifysgol Caerdydd ei fod yn cynnal adolygiad o'r system amserlennu

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd eu bod "wedi ymrwymo i weithio gyda holl aelodau cymuned y brifysgol, gan gynnwys undebau llafur, i sicrhau lles ein staff".

"Dros y pedair blynedd diwethaf ry'n ni wedi ceisio sefydlu fframwaith deg a thryloyw ar gyfer dosbarthu llwyth gwaith," meddai.

"Yn dilyn ymateb gan staff academaidd, ry'n ni'n cynnal adolygiad o'r Workload Allocation Model. Bydd hyn yn rhoi cyfle i staff fynegi eu barn."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "wedi ymrwymo i weithio gyda phrifysgolion, colegau a myfyrwyr ar iechyd meddwl a lles".

"Byddwn yn gwneud cyhoeddiad yn yr wythnosau nesaf ar gefnogaeth ychwanegol yn y maes," meddai llefarydd.

Wales Live, BBC One Wales, 22:35 nos Fercher.