Naw ysgol categori coch yn Sir Benfro yn 'anfaddeuol'
- Cyhoeddwyd
Mae'n "annerbyniol" ac yn "anfaddeuol" bod naw o ysgolion Sir Benfro wedi eu gosod yn y categori gwaethaf yn genedlaethol, yn ôl cadeirydd pwyllgor craffu addysg y sir.
Dywedodd y cynghorydd John Davies nad oes "unrhyw fath o gyfiawnhad pam ydym ni'n caniatáu i hyn ddigwydd".
Mae'r system genedlaethol ar gyfer categoreiddio ysgolion yn adolygu sut mae ysgolion yn perfformio, a faint o gymorth sydd angen arnyn nhw i wella.
Caiff ysgolion eu rhoi mewn categorïau o wyrdd (y gorau) i goch (y gwaethaf).
Mae'r broses yn ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys sut mae ysgolion yn cael eu harwain a'u rheoli, ac ansawdd y dysgu.
Y chwe ysgol gynradd y sir yn y categori coch:
Fenton
Llanussyllt (Saundersfoot)
Coastlands
Spittal
St Mary's RC
Ysgol Ger y Llan
Y tair ysgol uwchradd y sir hefyd yn y categori coch:
Ysgol Greenhill
Ysgol Harri Tudur (Penfro)
Ysgol Gyfun Aberdaugleddau
Mae 12 o ysgolion cynradd y sir yn y categori gwyrdd - ond dim ond un ysgol uwchradd, Ysgol y Preseli.
Daw wrth i drigolion Sir Benfro weld cynnydd o bron i 10% yn nhreth y cyngor ar ôl i gynghorwyr gymeradwyo'r gyllideb ddydd Iau.
Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i'r awdurdod gymeradwyo cynnydd sylweddol mewn treth, ar ôl cynnydd 12.5% llynedd.
Bydd cartrefi band D yn talu £98.55 yn ychwanegol yn 2019/20.
Dywedodd: "Mae gyda ni'n heriau, mae gyda ni'n tlodi, ond dim i'r graddau a welir mewn siroedd eraill yng Nghymru.
"Does dim wedi gwella. Mae yna gwestiynau mawr yn codi.
"Dyw e ddim yn dderbyniol i weld hyn yn digwydd yn ein hysgolion. Mae bai arnom ni.
"Mae hi'n holl anfaddeuol pan 'da ni'n codi treth y cyngor eleni a llynedd ein bod ni'n anwybyddu safonau ein hysgolion ni... Mae'n rhaid i ni wneud e yn werth am arian.
"Ac yng nghyd-destun ysgolion o ran eu safonau - 'da ni ddim yn cyflawni gwerth am arian, sydd yn drist iawn."
'Adnoddau i ddod mas o'r coch'
Wrth ymateb, fe ddywedodd y Cynghorydd Cris Tomos, aelod o gabinet Cyngor Sir Penfro, ei bod hi'n "siomedig i weld y canlyniadau".
"Os byddwn ni'n cael y cynnydd o 9.9% ar y dreth, fe fydd £600,000 yn mynd tuag at addysg blwyddyn nesaf," meddai. "Byddwn ni yn buddsoddi i ddod ag adnoddau ychwanegol i'r ysgolion.
"Ni'n gweld hynny yn bwynt hynod o bwysig i weld gwellhad. Byddwn ni am sicrhau bod yna adnoddau iddyn nhw ddod mas o'r coch yn ystod y 12 mis nesaf.
"Gyda'r ychwanegiad o 10%, fe fydd e'n mynd tuag at addysg, at yr ysgolion sydd angen cymorth. O ran yr adran addysg, mae gyda ni weithwyr sydd yn gweithio gyda bob ysgol i weld diffygion.
"Mae prifathrawon hefyd yn dod at ei gilydd i rannu arfer da. Roedd y canlyniadau yn seiliedig hyd at fis Medi diwethaf. Mae gwellhad wedi bod yn barod."
Doedd ERW - y consortiwm addysg yng ngorllewin Cymru - sydd yn cynorthwyo ysgolion i godi safonau - ddim am wneud unrhyw sylw.
Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi sgwennu at Gyngor Sir Penfro i holi sut mae'r awdurdod yn bwriadu cefnogi ysgolion sydd yn y categori coch am dros ddwy flynedd.