ASau sy'n gadael 'â Llafur i ddiolch am eu gyrfa'
- Cyhoeddwyd
Mae'r ASau sydd wedi gadael Llafur i ffurfio'r Grŵp Annibynnol newydd â'r blaid i ddiolch am eu gyrfaoedd, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd Mark Drakeford y byddai'n "iawn yn ddemocrataidd" i'r aelodau seneddol roi dewis i'w hetholwyr a galw isetholiadau.
Fe wnaeth wythfed AS Llafur - Joan Ryan - ymuno â'r grŵp nos Fawrth.
Mae tri AS Ceidwadol - Heidi Allen, Anna Soubry a Sarah Wollaston - wedi ymuno hefyd am eu bod yn gwrthwynebu polisi Brexit eu plaid.
'Aros a dadlau'
Dywedodd Mr Drakeford wrth raglen BBC Wales Live: "Yn anorfod mae 'na brydiau ble dydych chi ddim yn cytuno'n llwyr â chyfeiriad y blaid.
"Rydw i wastad wedi credu mai eich cyfrifoldeb yw aros a dadlau dros eich barn chi.
"Mae'n drist gweld pobl yn penderfynu peidio gwneud hynny a gadael, ble mai'r blaid sydd ganddyn nhw i ddiolch am eu gyrfaoedd, a rhoi'r llwyfan sydd ganddyn nhw nawr.
"Os ydych chi'n aelod etholedig o blaid benodol ac yna'n penderfynu nad ydych chi eisiau gwneud hynny yn y dyfodol, dylech chi fynd yn ôl at y bobl sydd wedi eich ethol a rhoi'r penderfyniad iddyn nhw eto."
Fe wnaeth un o'r ASau sydd wedi gadael y blaid - Luciana Berger - gyhuddo Llafur o "wrth-Semitiaeth sefydliadol".
Dywedodd Mr Drakeford nad oes unrhyw le i wrth-Semitiaeth o fewn y Blaid Lafur nac yn ehangach.
Ymchwiliad gwrth-Semitiaeth
Mae grŵp Llafur y prif weinidog yn y Cynulliad wedi wynebu ymchwiliad gwrth-Semitiaeth yn dilyn sylwadau gan AC Canol Caerdydd, Jenny Rathbone.
Roedd Ms Rathbone wedi awgrymu y gallai pryderon diogelwch Iddewon mewn Synagog yng Nghaerdydd fod "yn eu pennau eu hunain".
Mae cynrychiolwyr o'r gymuned Iddewig yng Nghymru wedi beirniadu'r ymchwiliad i'w hymddygiad am ddangos "diffyg ystyriaeth" o'r gymuned.
Mae Ms Rathbone wedi ymddiheuro a derbyn rhybudd ffurfiol, ond ni fydd manylion yr ymchwiliad yn cael ei gyhoeddi.
Dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Wales Live y byddai'n cwrdd â chynrychiolwyr o'r gymuned Iddewig "yn yr wythnosau nesaf".
Wales Live, BBC One Wales, 22:35 nos Fercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2019