Angen mwy o bobl i gynnig gofal ysbaid byr i blant anabl

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Portia, Rhodri a Jac sy'n rhannu eu profiadau o ganolfan Hafan y Sêr

Mae Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd yn apelio am ragor o deuluoedd i gynnig gofal ysbaid byr i blant anabl yng Ngwynedd a Môn.

Mae yna brinder teuluoedd sy'n cynnig gwasanaeth o'r fath.

Daw'r alwad wrth i ganolfan breswyl newydd sbon agor ym Mhenrhyndeudraeth brynhawn Iau.

Diben Hafan y Sêr ydi darparu gofal egwyl fer i blant anabl sy'n byw yn y ddwy sir.

Mae lle i chwech o blant rhwng wyth a 18 oed i aros dros nos yno, ac mae'r ganolfan wedi ei lleoli yng nghanol y sir er mwyn bod yn hwylus i deuluoedd.

'Lle hwyl a sbri'

Mae'r ganolfan yn rhoi'r cyfle i blant gael gwyliau ac ymlacio, cael hwyl yng nghwmni plant eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau.

Mae'n gyfle hefyd i deuluoedd gael ysbaid i wneud pethau syml fel mynd i siopa neu fynd am bryd o fwyd, ac yn gyfle i frodyr a chwiorydd gael amser a sylw gan eu rhieni, sydd ddim bob amser yn bosib pan fydd y plentyn anabl adref.

Un sydd yn mwynhau treulio amser yn Hafan y Sêr ydi Portia, 17 oed o'r Bala.

"Dwi'n dod yma un waith yr wythnos," meddai. "Mae llun ac enw ni ar ddrws yr ystafell wely ac mae pawb yn gwybod mai ystafell fi ydi hon.

"Mae o'n lle i gael hwyl a sbri."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jac a Rhodri yn mwynhau digwyddiadau amrywiol y ganolfan newydd

Mae Jac, 16 oed, a Rhodri, 17 oed, yn ffrindiau ers blynyddoedd lawer ac mae'r ddau wrth eu bodd yn mynd i Hafan y Sêr.

Dywedodd Jac: "Dan ni'n gallu chwarae Xbox, dan ni'n cael days out bach i'r sinema neu i'r sŵ."

"Mae'r lle yma yn dda," meddai Rhodri, "Dwi'n licio dod yma i aros yn enwedig hefo Jac, ac i ddeud y gwir dan ni'n ffrindiau gorau ers i ni ddod i nabod ein gilydd.

"Wrth ddod yma ti'n cael gweld person gwahanol yn lle gweld yr un person bob tro."

Disgrifiad o’r llun,

Mae merch Tracy Hughes yn mynd i aros yn y ganolfan yn gyson

Mae'r teuluoedd yn gwerthfarogi'r gwasanaeth sy'n cael ei roi yn Hafan y Sêr hefyd.

Mae merch Tracy Hughes, Sasha, â pharlys yr ymennydd, ac mae'n mynd i Hafan y Sêr i aros am ryw ddwy noson bob rhyw chwe wythnos.

"Mae hi'n rili, rili enjoio fo, mae'n cael brêc oddi wrth ei brodyr, a dan ni'n cael brêc. Mae hi wedi gwneud un ffrind yna, a mae'n dod adra a sôn non-stop am y ffrind bach yma. Mae o'n lle brilliant, absolutely fantastic."

Angen mwy o wirfoddolwyr

Mae Hafan y Sêr wedi ei gynllunio ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, ac mae'r gwasanaeth plant hefyd yn apelio am ragor o wirfoddolwyr i gynnig gofalu am blant yn eu cartrefi am gyfnodau byr.

Dywed Aled Gibbard, Uwch Reolwr Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd: "Be 'dan ni'n drio ei wneud ydi cynnig ystod o wasanaethau ac mae'r uned yn un elfen o hynny.

"Rydan ni hefyd yn chwilio am deuluoedd allai fod yn cynnig egwyl fer i blant mewn amgylchedd teuluol, fel ein bod ni'n medru ymateb i amrediad o anghenion plant mewn ffyrdd gwahanol.

"Mae yna brinder a'r hyn ydan ni'n trio ei wneud ydi codi ymwybyddiaeth, ac unrhyw un sydd â diddordeb, mi fasan ni'n eu hybu nhw i gysylltu."