Rhybudd bod 'prinder' ardaloedd chwarae i blant anabl

  • Cyhoeddwyd
Lynsey a Jacob Summer

Nid oes gan blant anabl a rhai gydag anghenion dysgu ddigon o ardaloedd chwarae diogel, yn ôl Anabledd Cymru.

Mae'r corff, sy'n hyrwyddo hawliau pobl anabl, yn dweud fod diffyg offer addas ar eu cyfer yn golygu fod plant ag anableddau yn colli'u hawl sylfaenol i chwarae.

Mae un ysgol arbenigol wedi penderfynu agor eu maes chwarae i ddisgyblion ar y penwythnos, tra bod elusennau hefyd yn ceisio llenwi'r bwlch ond maent yn dweud fod sicrhau cyllid ar gyfer chwarae diogel yn "anodd".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod dyletswydd gan awdurdodau lleol i "ddatblygu ac arolygu cynlluniau'n flynyddol, er mwyn amlygu a chofnodi cynnydd ynghyd â chynllunio at y flwyddyn ganlynol".

Mae mab Lynsey Summer, Jacob, sy'n 14 oed yn dioddef o barlys yr ymennydd cwadriplegig - cyflwr sy'n effeithio ar y cymalau i gyd.

"Mae hi'n rhy anodd ac emosiynol i fynd â Jacob i'r parc cyffredin, gan fod rhaid i ni wylio plant eraill yn rhedeg a'n chwarae tra'i fod o methu gwneud yr un peth," meddai Ms Summer.

"Dim fel rhiant yn unig mae hi'n anodd, gan fod ymwybyddiaeth Jacob o'r hyn y mae o yn gallu ei wneud wedi datblygu yn aruthrol erbyn hyn."

Ychwanegodd: "Mae Jacob wedi cyrraedd oedran lle mae o'n deall nad yw'n gallu gwneud yr un fath â'i frodyr a'i chwiorydd ac mae hynny'n rhwystredig ac yn achosi poen meddwl iddo".

Cynllun 'ffantastig'

Mae Jacob yn ddisgybl yn Ysgol y Deri, Penarth - ysgol arbennig ym Mro Morgannwg sydd â maes chwarae diogel cynhwysol.

Mae'r offer yno yn addas ar gyfer defnydd cadair olwyn, ac ers mis Mehefin mae'r ysgol wedi dechrau agor y parc i blant a'u teuluoedd ar brynhawn Sadwrn.

Dywedodd yr ysgol fod ymateb "aruthrol" wedi bod i'r cynllun, a'u bod nhw'n bwriadu ei wneud yn rhan barhaol o fywyd yr ysgol o fis Medi ymlaen.

Yn ôl Ms Summer mae'r cynllun "ffantastig" yn golygu fod Jacob nawr yn "edrych 'mlaen i fedru mynd allan ar ddydd Sadwrn".

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i gwmnïau chwarae preifat feddwl fwy am gyfleoedd i'r anabl hefyd, yn ôl Ms Nortey.

Diffyg adnoddau'n 'siomedig'

Dywedodd Ruth Nortey, Swyddog Polisi ac Ymchwil Anabledd Cymru fod y diffyg adnoddau chwarae i blant anabl yn "siomedig".

"Nid oes digon o lefydd chwarae cynhwysol i blant anabl. Dylai fod y plant hyn yn derbyn yr un cyfleoedd, felly mae'n siomedig iawn nad oes digon o gyfleusterau ar eu cyfer."

Yn ôl Ms Nortey mae cwmnïau preifat angen meddwl mwy am anghenion plant anabl hefyd.

"Pan mae ardaloedd chwarae newydd yn cael eu creu, dydyn nhw ddim yn meddwl digon am eu gwneud yn fwy cynhwysol ac agored i blant anabl."

Yn ôl llefarydd ar ran y llywodraeth mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddatblygu ac adolygu cynlluniau'n flynyddol, er mwyn amlygu a chofnodi cynnydd ynghyd â chynllunio at y flwyddyn ganlynol".

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod awdurdodau lleol yn "cydnabod pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant" a bod pob awdurdod yn cymryd ei rôl i ddarparu cyfleoedd chwarae o ddifrif".