Gateshead 1-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
National LeagueFfynhonnell y llun, Getty Images

Llwyddodd Wrecsam i sicrhau sgôr gyfartal yn erbyn Gateshead gyda gôl yn ystod eiliadau olaf y gêm.

Roedd hi'n edrych fel buddugoliaeth i'r tîm cartref wedi i Steven Rigg hawlio'r gôl gyntaf, wrth i'r golwr Christian Dibble fethu dal ei afael ar y bêl.

Derbyniodd Akil Wright gerdyn melyn yn yr ail hanner am chwarae'n fudr, ond llwyddodd Cole Stockton i adennill bri i Wrecsam gyda'i gôl munud olaf.

Mae Wrecsam yn parhau ar frig tabl y Gynghrair Genedlaethol, gyda Gateshead yn cwympo i'r seithfed safle.