Dynes wedi marw ddyddiau ar ôl gwrthdrawiad yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
A495Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A495 ger Bronington nos Fawrth

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dynes a gafodd anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad nos Fawrth wedi marw yn yr ysbyty.

Maen nhw felly yn apelio o'r newydd am dystion i'r digwyddiad yn Bronington, Wrecsam.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car BMW X3, Daihatsu Sirion a cheffyl, am tua 19:31 ar yr A495.

Roedd y ddynes yn teithio yn y BMW, ac fe gafodd ei chludo i ysbyty arbenigol yn Stoke. Yn anffodus bu farw yn oriau mân fore Gwener.

Dywedodd Sarjant Leigh Evans o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu a chyfeillion y ddynes yma mewn cyfnod anodd dros ben.

"Mae'r ymchwiliad yn parhau ac rydym yn ddiolchgar i'r tystion sydd wedi cysylltu â ni hyd yma.

"Rydym yn parhau'n awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd yn teithio ar yr A495 ac sydd â lluniau dash-cam o'r digwyddiad."

Dylai unrhyw un all fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod XO23583.