Somaliland yn derbyn cymorth economoaidd gan Gymry

  • Cyhoeddwyd
Pobl SomalilandFfynhonnell y llun, Lizzie Wood
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Somaliland yn dyddio 'nol i 1870

Mae academyddion o Gymru yn ceisio helpu adfer economi gwlad yng ngogledd ddwyrain Affrica wedi blynyddoedd o newyn a rhyfel.

Ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi paratoi'r cynllun sy'n argymell sut y dylai Somaliland fynd ati i sbarduno twf economaidd.

Mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Somaliland yn dyddio 'nôl i 1870, ar ôl i nifer o bobl ddianc o'r wlad a mudo i'r dociau yng Nghaerdydd.

Dyma un o'r cymunedau ethnig sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, gyda thua 7,000 o bobl yn byw yn ardal Butetown yn y brif ddinas erbyn hyn.

Yr adroddiad yma yw'r cyntaf i edrych ar y ffactorau sy'n effeithio ar dwf economi'r wlad.

Cyngor Caerdydd oedd yr ail awdurdod lleol yn y DU i gydnabod annibyniaeth Somaliland, ac mae criw o'r ddinas hefyd wedi llwyddo i godi £100,000 i helpu trigolion y wlad.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eid Ahmed fod rhyfel wedi cael effaith "tebyg i tsunami" ar y wlad

Un o'r prif anawsterau sy'n wynebu Somaliland, yn ôl yr adroddiad, yw'r ffaith nad yw'r weriniaeth wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol - sy'n golygu nad yw'n elwa o unrhyw gymorth ariannol o dramor.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu natur gwleidyddiaeth y wlad, safon y gwasanaethau cyhoeddus a'r cyflenwad dŵr a thrydan fel meysydd eraill sy'n cyfrannu at wendid yr economi.

Dywedodd Eid Ahmed, ymchwilydd a weithiodd gydag academyddion y brifysgol, fod rhyfel wedi cael effaith "tebyg i tsunami" ar y wlad.

Mae'r adroddiad yn cynnwys pum argymhelliad sy'n cynnwys cydnabod hawliau gweithwyr a chreu sefydliadau fyddai'n helpu rhoi llais i'r gweithwyr ar lawr gwlad.

Bydd darganfyddiadau'r adroddiad yn cael eu cyhoeddi'n llawn mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd wythnos nesaf.