Y Cenhedloedd Unedig yn trafod y Gymraeg am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd

Bydd Eluned Morgan yn dweud wrth un o gyfarfodydd y Cenhedloedd Unedig sut mae Cymru yn cadw'r Gymraeg yn fyw
Bydd y Gymraeg yn bwnc trafod yr wythnos hon yn un o gyfarfodydd y Cenhedloedd Unedig - a hynny am y tro cyntaf erioed.
A hithau'n flwyddyn yr ieithoedd cynhenid, bydd un o weinidogion Llywodraeth Cymru yn teithio i Efrog Newydd i sôn am sut y mae'r wlad yn llwyddo i gadw'r Gymraeg yn fyw.
Dyma daith gyntaf Eluned Morgan yn ei rôl fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Yn ystod ei thaith ag America bydd y Farwnes Morgan yn arwain digwyddiad Gŵyl Ddewi yn Washington, annerch y Cenhedloedd Unedig a cheisio hybu cysylltiadau masnach newydd.
Ei bwriad meddai yw "dangos i bobl eraill sut allan nhw ddysgu oddi wrthon ni" a hithau'n flwyddyn ieithoedd brodorol UNESCO.
"Dyma'r tro cyntaf bydd cyfle i'r UN glywed Cymraeg, Mae lot allwn ni ddysgu i bobol eraill ynglŷn â sut y'n ni 'di newid yr awyrgylch o gwmpas ieithoedd lleiafrifol."
Hybu masnach
Bydd Ms Morgan hefyd yn ymweld â Banc y Byd a'r Gyngres yn Washington, yn y gobaith o allu hybu masnach rhwng Cymru ac America.
"Peth mwya' pwysig i ni yw datblygu'r economi yng Nghymru ac mae lot allan nhw neud i helpu ni.
"Yn sicr dyma'r lle ni'n allforio'r trydydd mwyaf o'n nwyddau ni, a ni angen sicrhau bod hynny'n parhau ac yn tyfu."
Mae'n cydnabod nad yw'n gyfnod hawdd i Gymru ddenu cytundebau masnach, gyda Brexit ar y gorwel.
"Yn sicr dyw hi ddim yn gyfnod hawdd i ni ddenu buddsoddiad i Gymru oni bai bo ni'n edrych ar arbenigo mewn rhai meysydd," meddai.
"Ni'n cael cyfarfodydd, er enghraifft, gyda phobol sy'n arbenigo mewn cyber security.
"Mae hwnna'n ardal ni rili eisiau arbenigo ynddo a gwerthu'r gallu yna i'r byd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2017