Eleri Roberts: Beth sy' 'na i de?

  • Cyhoeddwyd

Mae Eleri Roberts a'i theulu yn ffermio yn Ysbyty Ifan, ond mae hi hefyd yn rhedeg ei busnes arlwyo ei hun. Bwyta eu cynnyrch eu hunain sydd yn bwysig i Eleri a'r teulu - yn gig a llysiau - ac felly mae beth mae hi'n ei goginio yn amrywio yn ôl y tymhorau.

Beth sy' i de heno?

Cig eidion wedi ei goginio yn araf gyda llysiau a gwin coch. Y cig eidion o'r ffarm a'r swejen o'r cae. Tarten afal a chwstard i bwdin.

Ffynhonnell y llun, Eleri Roberts

Pwy sy' rownd y bwrdd?

Fi, Glyn (y gŵr), Beca, Mirain a Heledd (y merched) a Nel fach (wyres).

Beth yw'r sialens mwyaf i ti wrth benderfynu beth sy' i de?

Amrywiaeth dda gan geisio defnyddio bwydydd lleol neu ein cynnyrch ein hunain a faint o amser sydd i baratoi!

Beth yw'r pryd wyt ti'n dipyn o arbenigwr am ei wneud?

Cinio rhost - byddaf yn coginio i sawl priodas yn yr haf gyda fy musnes arlwyo allanol. Hefyd rwyf wrth fy modd yn gwneud pob math o bwdinau a thrio ryseitiau newydd allan.

Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?

Pasta, omlet neu ŵy ar dost.

Ffynhonnell y llun, Eleri Roberts

Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?

Na, ond byddaf bendant yn newid y math o fwyd gyda'r tymor. Wrth fynd yn hŷn byddaf yn ceisio dechrau diet i golli pwysau bob dydd Llun!

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Cig oen Cymreig wedi'i wneud yn araf deg gyda garlleg a pherlysiau, tatws newydd o'r ardd a llysiau ffres a grefi. Unrhyw beth gyda siocled i bwdin!

Beth wyt ti'n ei fwyta er ei fod yn pigo'r cydwybod?

Cawsom borc wedi ei fagu gartref i ginio dydd Sul diwethaf, roedd yn flasus iawn ond mi oedd yn pigo'r cydwybod gan mai fi fuodd yn bwydo'r moch drwy'r haf! Er hynny cawsant fywyd hapus yn ein perllan... ac roedd y cracling yn dda!

Beth yw'r peth mwya' anghyffredin ti wedi ei fwyta/goginio?

Bues i yn gweithio yn Llydaw am gyfnod a gweld sawl peth anghyffredin e.e. jar mawr o gherkins a seidr i frecwast! Nid oedd y brecwast gore!

Ffynhonnell y llun, Eleri Roberts

Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?

Pryd bwyd gyda phawb rownd y bwyd ar ôl cneifio am y flwyddyn, pawb yn cael hwyl a chymdeithasu ar ein fferm fynydd, Trawsnant.

Beth yw dy hoff gyngor coginio?

Meddwl ymlaen llaw a defnyddio cynhwysion lleol a thymhorol.

Oes 'na rhywbeth wnei di ddim bwyta?

Dwi ddim yn fentrus iawn gyda bwyd môr.

Hefyd o ddiddordeb: