Y ddynes o Gonwy fu'n trwsio gwefusau plant yn India

  • Cyhoeddwyd

Mae tua 1,200 o blant yn cael eu geni â hollt yn y wefus neu daflod (palate) yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Yn ffodus, mae'r nam fel arfer yn cael ei ganfod yn ystod y beichiogrwydd, a bydd y babi yn cael llawdriniaeth i'w gywiro pan mae ychydig o fisoedd oed.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir ym mhob man ar draws y byd. Yn ddiweddar aeth Maria Jones, yn wreiddiol o Ddwygyfylchi, ger Conwy, allan i India i helpu i gynnal llawdriniaethau i gywiro'r nam yma, a helpu i drawsnewid bywydau nifer o blant a phobl ifanc.

Ffynhonnell y llun, Maria Jones

Y llynedd, 'naeth un o fy nghydweithwyr i yn ysbyty Countess of Chester, Dr Amit Dawar, ofyn tybed faswn i'n ymuno efo fo a thîm o weithwyr meddygol sy'n cynnal gwaith elusennol ar gyfer y Northern Cleft Foundation yn India.

Dyma elusen sy'n rhoi llawdriniaethau am ddim i blant yn India i gywiro anffurfiadau oherwydd gwefus neu daflod hollt (cleft palate). Mae'r plant sydd yn diodde' o'r namau geni yma yn gallu wynebu heriau corfforol, seicolegol a chymdeithasol, ynghyd â thrafferthion bwyta, siarad a chlywed.

Rydyn ni'n lwcus yma yn y DU fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gwneud y llawdriniaeth yma am ddim, ond dydi hyn ddim yn wir yn India. Mae'r llawdriniaeth yn costio tua £200, ac yn aml, dydi nifer o'r teuluoedd ddim yn gallu fforddio ei dalu.

Unwaith y flwyddyn mae'r elusen yn teithio i Nagpur i ddarparu'r gwasanaeth yma, ac ro'n i'n awyddus ac yn gyffrous iawn i gael ymuno â'r daith.

Ffynhonnell y llun, Maria Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae doctoriaid o Brydain yn mynd draw i India yn flynyddol i wneud llawdriniaethau ar hollt ar y gwefus a'r taflod

Y peth cynta' oedd angen ei wneud oedd meddwl am syniadau i godi pres ar gyfer yr elusen. Beth am redeg marathon? Efallai ddim yn ddigon o her gan mod i wedi rhedeg pedwar hanner marathon yn barod. Dringo tri mynydd uchaf Cymru, Lloegr a'r Alban mewn 24 awr? Dwi'n mwynhau cerdded mynyddoedd yn fy amser sbâr beth bynnag, felly mae'n siŵr na fyddwn i'n cael llawer o bres noddi am hynny.

Felly es i yn ôl at y syniad cynta' ges i - siafio fy ngwallt i gyd i ffwrdd!

Fy nharged cyntaf oedd £2,000, a 'nes i feddwl y byddai'n anodd i'w gyrraedd, ond o fewn pedwar diwrnod, ro'n i wedi ei basio! Do'n i methu credu'r peth. Ar ddiwrnod y siafiad mawr, 'nes i hefyd drefnu gêm bêl-droed 5-yr-ochr a raffl i godi hyd yn oed mwy o bres.

Roedd o'n llwyddiant ysgubol a nes i fwynhau bob munud ohono - do'n i methu stopio gwenu. O'n i ddim eisiau edrych yn y drych i ddechra' ar ôl i ngwallt i gael ei siafio, ond ro'dd o'n edrych yn well nag o'n i wedi ei ofni! Dwi wedi rhoi'r gwallt i elusen sy'n creu wigs i blant sydd wedi colli eu gwallt oherwydd triniaeth canser ac afiechydon eraill.

Erbyn hyn, 'dan ni wedi codi dros £5,000 - a dwi wedi fy llethu gan haelioni pobl.

Ffynhonnell y llun, Maria Jones
Disgrifiad o’r llun,

Maria cyn ac ar ôl y siafiad mawr

Unarddeg diwrnod yn ddiweddarach, o'n i ar awyren i Nagpur yng nghanol India gyda 57 aelod arall o'r elusen.

Ar y diwrnod cyntaf, cawson ni daith o amgylch ysbyty Mure Memorial lle roedden ni am fod yn gweithio am yr wythnos nesa'. Wrth i mi gerdded o amgylch yr adran, daeth hi'n fwy real i mi. Roedd yr ysbyty yn wahanol iawn i be' o'n i wedi arfer efo fo, a ches i sioc pa mor sylfaenol oedd popeth a chyn lleied o offer oedd yno.

Yr adeg yr hitiodd fi fwya' oedd pan nes i sylweddoli fod yna ddau fwrdd llawdriniaeth yn rhai o'r theatrau. Fyddai hyn byth yn digwydd yn y DU. Dwi'n cofio meddwl pa mor lwcus ydyn ni i gael y GIG.

Ffynhonnell y llun, Maria Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn aml, roedd dwy lawdriniaeth yn digwydd ochr-yn-ochr â'i gilydd

Yr ail ddiwrnod, dechreuon ni ar y llawdriniaethau.

Yr her fwyaf oedd y cyfathrebu gan nad oedd y rhan fwyaf o'r cleifion a'u teuluoedd yn siarad Saesneg, ac roedd angen dibynnu ar gyfieithwyr neu staff oedd hefyd yn siarad Hindi neu Marathi.

Doedd yna ddim patrymau shifft pendant nac egwyl - roedden ni'n mynd i'r gwaith yn y bore, yn bwyta ac yfed yn sydyn pan oedden ni'n gallu, ac ond yn gadael yr ysbyty pan oedd y rhestr llawdriniaeth wedi ei gwblhau.

Ffynhonnell y llun, Maria Jones
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r 83 o gleifion gafodd lawdriniaeth gan Maria a'i chydweithwyr

Roedd hi'n waith caled iawn, ac wrth i'r dyddiau fynd heibio, roedd hi'n glir fod blinder yn effeithio ar bawb. Ond 'naeth hyn ddim effeithio ar hwyliau da a gwaith caled y tîm. Os unrhywbeth, ddaeth hyn â ni at ein gilydd, ac roedd yr holl gydweithio yn aruthrol. Roedd pawb yn cefnogi ei gilydd, a dwi'n meddwl mai dyma un o'r prif resymau pam fod hwn wedi bod yn daith mor llwyddiannus.

Yn ystod yr wythnos, 'naethon ni 83 llawdriniaeth ar blant a phobl ifanc. Roedd hi'n bleser enfawr i gyfarfod yr holl blant a'u teuluoedd, ac i fod yn rhan o'r sefydliad anhygoel yma.

Mae'r profiad yma wedi bod mor werthfawr yn bersonol ac yn broffesiynol, a byddwn i bendant yn ystyried ei wneud eto - hyd yn oed siafio fy ngwallt! Mae cael gwallt byr am 'chydig yn bris bach i'w dalu, o'i gymharu â sut mae'r plant bach hyfryd yna draw yn Nagpur wedi byw. Byddwn i'n eu wneud o i gyd eto 'fory.

Ffynhonnell y llun, Maria Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r plant a'u teuluoedd yn amlwg yn gwerthfawrogi ymroddiad y staff sy'n teithio draw i India i'w helpu

Hefyd o ddiddordeb: