Apêl teulu o Gaerdydd i ryddhau carcharor yn Yemen
- Cyhoeddwyd
Mae taid dyn o Gaerdydd sy'n cael ei ddal yn ddigyhuddiad mewn carchar yn Yemen ers bron i ddwy flynedd wedi trafod pryder a dicter y teulu ynghylch y sefyllfa.
Dywed Robert Cummings bod methiant llywodraeth y DU i sicrhau rhyddid Luke Symons yn siomedig.
Cafodd y dyn 26 oed, sydd bellach yn cael ei nabod fel Jamal, ei ddal gan yr awdurdodau yn 2017 ar amheuaeth o fod yn ysbïwr.
Mae Aelod Seneddol lleol y teulu, Kevin Brennan wedi codi'r mater yn Nhŷ'r Cyffredin wrth i'r teulu ymgyrchu i'w ryddhau.
Wedi ei eni a'i fagu yn ne Cymru, fe drodd Luke at Islam yn ei arddegau hwyr.
Yn 20 oed, aeth ar bererindod i Mecca cyn teithio i'r Aifft ac yna Yemen lle aeth ymlaen i roi gwersi Saesneg a phriodi â merch leol, Tagreed.
Wedi dechrau'r rhyfel cartref yn Yemen fe adawodd y cwpwl y wlad ond ym merw'r anhrefn fe gollodd Tagreed ei phasort gan wneud hi'n amhosib iddyn nhw ddod i'r DU.
Fe ddychwelodd y ddau i Yemen a chael plentyn, gan obeithio dod o hyd i ffordd o adael y wlad yn y pen draw.
Ond ddwy flynedd yn ôl wrth ddefnyddio'i basport Prydeinig i dynnu arian ar gyfer talu i'r teulu deithio o'r wlad fe gafodd Luke ei arestio ar amheuaeth o ysbïo.
Mae cyfaill wedi dweud wrth ei deulu yng Nghaerdydd ei fod yn cael ei gadw fel carcharor gwleidyddol ac yn cael ei gam-drin.
"Dywedodd y bydd Luke yn cael y gosb eithaf pe baen nhw'n ei gael yn euog o ysbïo - rhywbeth oedd yn chwerthinllyd i ni ar y pryd," meddai Mr Cummings.
"Nid ysbïwr mo Luke... ond dyna roeddwn nhw am ei gyhuddo o wneud."
'Mae'n ddychrynllyd'
Dywed ei fam, Jane Lawrence ei bod yn teimlo'n ddiymadferth. "Fel mam, ry'ch chi mo'yn mynd ar awyren a gwneud rhywbeth, ond gallech chi ddim," meddai.
"Chi mewn limbo. Chi methu cysgu. Bob tro ry'ch chi'n cau eich llygaid, ry'ch chi'n eu gweld nhw'n gwneud pethau drwg iddo, Mae'n ddychrynllyd."
Mae'r teulu wedi trafod yr achos gyda'r Swyddfa Dramor a Heddlu De Cymru, ond maen nhw'n dweud mai dim ond trwy gymuned Yemenaidd Caerdydd y maen nhw wedi cael unrhyw wybodaeth.
Dywed Mrs Lawrence eu bod wedi cwrdd â swyddogion y Swyddfa Dramor yng Nghaerdydd a Llundain ond bod "Luke yn dal yn yr un cyfyng-gyngor a phan ddechreuodd hyn oll".
Mae'r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau eu bod wedi rhoi cyngor i deulu o'r DU ynghylch dinesydd Prydeinig sy'n cael ei ddal yn Yemen ers 2017 a'u bod yn parhau i wneud hynny.
Ychwanegodd llefarydd bod darparu cymorth consylaidd yn Yemen yn amhosib a bod "unrhyw un sy'n teithio i'r wlad yn groes i'n cyngor ni yn rhoi eu hunain mewn perygl sylweddol".
Cyn codi'r mater yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth, dywedodd AS Llafur Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan: "Dydyn ni ddim yn gwbwl sicr sut mae'r Swyddfa Dramor yn mynd o gwmpas yr achos yma.
"Rwy'n deall yn iawn eu bod mewn ardal o ryfel, ond mae'n rhwystredig bod Mr Cummings yn teimlo ei fod wedi cael mwy o gymorth gan y gymuned Yemenaidd yng Nghaerdydd na gan y llywodraeth."
Fe ddywedodd wrth yr Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt yn y Senedd bod Mr Symonds wedi ei gadw yn Sana'a am gyfnod sylweddol a bod ei deulu "yn teimlo nad yw'r Swyddfa Dramor yn gwneud digon".
Gofynnodd am addewid i roi blaenoriaeth i'r achos.
Atebodd Mr Hunt bod yr achos yn un "ofidus iawn" a'u bod yn parhau mewn cysylltiad â'r teulu.
"Rydym yn derbyn ei fod yn Yemen cyn dechrau'r rhyfel cartref a byddan ni'n parhau gyda phob ymdrech posib i geisio ei gael adref."
Mae teulu Luke wedi cael ar ddeall bod ymchwiliad yn Yemen wedi ei gael yn ddieuog o ysbïo ac fe gododd eu gobeithion cyn Nadolig pan gafodd dogfennau i'w ryddhau eu hawdurdodi.
Fis diwethaf fe gafodd Mr Cummings sgwrs ffôn ag e - y tro cyntaf i unrhyw un siarad ag e mewn dwy flynedd - ond mae'n parhau dan glo.
"Ry'n ni mo'yn ei gartre," meddai, gan alw am weithredu brys i'w ryddhau. "S'dim rheswm iddo fod yn y carchar yna."
Mae'r hanes yn llawn ar raglen Eye On Walesar BBC Sounds.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2019