£2m i helpu ardaloedd gwledig Cymru

  • Cyhoeddwyd
machynllethFfynhonnell y llun, Google maps
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun wedi ei dargedu at economi wledig a threfi marchnad fel Machynlleth.

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi lawnsio cynllun newydd gwerth £2m a fydd yn darparu cymorth i ardaloedd gwledig a Chymreig Cymru.

Bydd Cronfa Arloesi Arfor yw rhoi hwb i ranbarthau sydd yn ddibynnol ar economi amaethyddol a sylfaenol lle mae incymau isel yn broblem.

Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin yw'r pedair sir fydd yn manteisio ar y cynllun.

Dywedodd cynrychiolydd o Gyngor Gwynedd y bod y cynllun yn "gam ymlaen pwysig".

Mae'r cynllun yn deillio o gytundeb cyllidebol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Fe fydd yr arian yn cael ei ddarparu i'r pedwar awdurdod lleol ac yn cael ei ddefnyddio i'w helpu i ddatblygu'r economi'r rhanbarthau.

Mae pedwar nod gan y cynllun sef:

  • Hybu mentrau a chefnogi twf busnes mewn ardaloedd lle y mae canran uchel o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg;

  • Sicrhau swyddi gwell sy'n talu'n well i gadw pobl leol yn yr ardaloedd hyn ac annog y rheini sydd wedi gadael i ddychwelyd;

  • Hyrwyddo gwerth siarad Cymraeg a dwyieithrwydd mewn busnesau gan greu naws cyffrous am le;

  • Annog busnesau a phobl sy'n symud i ardaloedd gwledig i werthfawrogi a defnyddio'r Gymraeg.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

"Nod y rhaglen arloesol hon, sy'n seiliedig ar drafodaeth eang gyda phartneriaid awdurdodau lleol, yw profi ein dulliau newydd o hyrwyddo entrepreneuriaeth, twf busnes a chydnerthedd cymuned yn y pedair ardal, gan hoelio sylw ar ddefnyddio'r Gymraeg."

Yn ôl Arweinydd Cyngor Gwynedd, y cynghorydd Dyfrig Siencyn, mae'r "cyhoeddiad heddiw yn gam ymlaen pwysig yn ein hymdrech i greu dyfodol ffyniannus a chynaliadwy ar gyfer pobl a chymunedau Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Gwynedd a dyfodol disglair i'r Gymraeg ar draws y rhanbarth".