Comisiynydd yn pwysleisio gwerth y Gymraeg i fusnesau

  • Cyhoeddwyd
brexit cymru

Bydd defnyddio'r Gymraeg ochr yn ochr â'r Ddraig Goch yn hwb i fusnesau i werthu eu cynnyrch a'u gwasanaethau yng Nghymru a thu hwnt ar ôl Brexit, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Daeth sylwadau Meri Huws wrth iddi baratoi i gynnal digwyddiad gyda phenaethiaid busnes y tu allan i Gymru.

Nod y digwyddiad yn Llundain fydd dadlau'r achos busnes dros ddefnyddio'r Gymraeg.

Dywedodd Ms Huws: "Mae'r iaith Gymraeg yn nod unigryw yng Nghymru, ac yn gynyddol, mae'n cael ei defnyddio i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol."

Soniodd hefyd am waith Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ystod cystadleuaeth Euro 2016 pan oedd "yr iaith yn ganolog i ymgyrchoedd marchnata'r gymdeithas, eu noddwyr a busnesau eraill" a fu'n defnyddio llwyddiant y tîm yn eu hymgyrchoedd marchnata.

'Ansawdd gwych'

"Rydym yn gweld o'n hymchwil fod cwsmeriaid yng Nghymru, yn siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg, yn gweld gwerth defnyddio'r Gymraeg," meddai Ms Huws.

"Roedd 68% yn dweud eu bod yn hoffi gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio, a 83% yn cytuno â'r gosodiad bod defnydd o'r Gymraeg yn dangos cefnogaeth i ddiwylliant Cymreig.

"Mae ymchwil a gynhaliodd Llywodraeth Cymru yn 2017 hefyd yn dangos bod 85% o siopwyr Cymru'n credu bod cynnyrch bwyd a diod o Gymru o ansawdd gwych."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Meri Huws yn gadael rôl Comisiynydd y Gymraeg ym mis Mawrth

Bydd busnesau ac elusennau o bob math yn mynychu'r digwyddiad yn Llundain a bydd profiadau cwmnïau fel Boots a Santander o gydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg yn cael eu rhannu.

Dywedodd Ms Huws: "Os collir y brand Cymreig, a'r brand Cymraeg, wedi Brexit, fe fydd ein busnesau cynhenid ar eu colled yn aruthrol.

"Fy neges i felly yw os yw busnes eisiau denu a chadw cwsmeriaid ac os ydym am weld busnesau Cymru'n llwyddo ar y llwyfan rhyngwladol, yna fe ddylem wneud popeth o fewn ein gallu i'w hannog i ddatblygu brand Cymreig a Chymraeg cryf a chofiadwy a chadw'r Gymraeg yn ganolog yn eu busnes."

Mae'n debyg mai hwn fydd un o ddigwyddiadau olaf Ms Huws fel Comisiynydd y Gymraeg cyn trosglwyddo'r awenau i'r Aled Roberts ym mis Mawrth.