Y nofiwr Jazz Carlin yn ymddeol o'r pwll yn 28 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r nofiwr o Gymru, Jazz Carlin wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol o'r gamp yn 28 oed.
Llwyddodd i ennill medalau yn y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad yn ystod ei gyrfa, gan gynnwys aur i Gymru yn 2014.
Ym mis Medi 2018 fe wnaeth Carlin ddweud ei bod yn cymryd seibiant o'r gamp yn dilyn "blwyddyn anodd oherwydd anafiadau a salwch", ond mae hi bellach wedi dewis gwneud y penderfyniad yn un parhaol.
Fe enillodd ddwy fedal - arian ac efydd - yng Ngemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi ac fe gafodd ei henwebu ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwareon BBC Cymru y flwyddyn honno yn dilyn ei llwyddiant.
Aeth ymlaen i wella ar hynny yng ngemau Glasgow yn 2014, gan ennill medalau aur ac arian i Gymru, cyn ennill dwy fedal arian arall yng Ngemau Olympaidd Rio yn 2016.
"Mae hi wedi bod yn benderfyniad anodd, emosiynol ond mae'n teimlo fel yr amser cywir i roi'r gorau iddi," meddai.
"Mae hi wedi bod yn daith anhygoel ac yn rhywbeth y byddai'n ei drysori am byth.
"Roedd gallu sefyll ar dop y podiwm, clywed yr anthem Gymreig ac ennill medal dros fy ngwlad yn arbennig.
"Fe roddodd yr hyder i mi allu cystadlu yn erbyn y gorau a'n helpu i gyrraedd y Gemau Olympaidd a chyflawni'r hyn wnes i yn fanno."
Fe fydd nawr yn mentora tîm ieuenctid Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2018
- Cyhoeddwyd13 Awst 2016
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2014