Tanau gwair yn taro sawl rhan o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn parhau i geisio diffodd tân gwair sylweddol ar fynydd yn Sir Ddinbych ddydd Mercher.
Bu'n rhaid achub dyn o'r mynydd yng Nglyndyfrdwy ger Llangollen ar ôl i'w dractor gael ei amgylchynu gan y tân.
Mae Arwyn Davies yn cael triniaeth mewn ysbyty yn Stoke.
Ar ei fwyaf roedd y tân wedi lledu i ardal cilomedr a hanner o hyd.
Roedd yna dair injan dân ar y mynydd dros nos ac fe wnaeth yr ymdrechion i reoli'r sefyllfa ailddechrau wrth iddi wawrio ddydd Mercher.
Erbyn canol y bore roedd ardal tua 500 medr o hyd yn anodd i swyddogion ei chyrraedd wrth geisio diffodd y fflamau.
Taro sawl ardal
Mae staff Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio â'r gwasanaeth tân ac yn darparu offer arbenigol ar gyfer tir anghysbell ac anwastad.
Mae criwiau yn ne a chanolbarth Cymru hefyd wedi bod yn ymateb i danau gwair ers dechrau cyfnod o dywydd mwynach na'r arfer a'r tymhereddau'r uchaf ar gofnod yng Nghymru ar gyfer mis Chwefror.
Roedd nifer yng Nghwm Cynon, gan gynnwys wyth o danau gwahanol yn Aberdâr, ond mae'r cyfan wedi eu diffodd erbyn hyn.
Cafodd 30 hectar o wair ac eithin eu dinistrio wedi tân mynydd mawr yn Aberpennar.
Bu'n rhaid danfon criwiau hefyd i ddelio â thanau gwair ger Aberystwyth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2019