Plaid Cymru: Gwasanaeth Prawf preifat yn 'drychineb'

  • Cyhoeddwyd
Liz Saville Roberts

Mae Liz Saville Roberts yn dweud y dylid ail-genedlaetholi'r gwasanaeth prawf gan honni bod y system bresennol yn aneffeithiol.

Ers pedair blynedd mae rhannau o'r Gwasanaeth Prawf yn perthyn i'r sector preifat.

Ond yn ôl yr Aelod Seneddol dros Blaid Cymru, mae ffigurau newydd yn dangos bod 225 o droseddwyr wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth yn y cyfnod yma tra dan sylw gwmnïau preifat.

Ychwanegodd Ms Saville Roberts bod 142 o gyhuddiadau o lofruddiaeth ei wneud yn erbyn troseddwyr risg uchel oedd dan oruchwyliaeth gan Wasanaeth Prawf y llywodraeth yn ystod yr un cyfnod.

Fe gafodd troseddwyr dan sylw cwmnïau preifat hefyd eu cyhuddo o 447 o weithiau am drais rhywiol.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod achosion o aildroseddu yn brin.

Dywedodd Ms Saville Roberts: "Dengys y ffigurau bod angen dwys i wneud y gwasanaeth prawf yn rhan o'r sector cyhoeddus unwaith eto.

"Mae dioddefwyr, a throseddwyr, yn cael eu gadael i lawr gan system sy'n blaenoriaethu elw dros les y cyhoedd.

"Mae preifateiddio wedi bod yn drychineb a gallwn ni ddim aros nes bod newidiadau wedi eu gwneud - mae troseddau yn cael eu cyflawni pob dydd oherwydd agwedd wallus i gyfiawnder troseddol."

'Cymryd o ddifrif'

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae achosion o aildroseddu yn brin, gyda llai na 0.5% o droseddwyr dan oruchwyliaeth statudol yn cael eu dyfarnu'n euog.

"Serch hynny, mae pob un yn cael ei gymryd o ddifrif ac yn cael ei archwilio'n drylwyr.

"Mae gwelliannau i'n Gwasanaethau Prawf yn golygu ein bod yn monitro oddeutu 40,000 o droseddwyr a fyddai gynt wedi cael eu rhyddhau heb unrhyw oruchwyliaeth, sy'n newid positif er lles y cyhoedd."