Arweinydd Cyngor Caerffili, Sean Morgan, yn ymddiswyddo

Sean MorganFfynhonnell y llun, Cyngor Caerffili
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sean Morgan "nad yw fy safle moesol yn caniatáu i mi fod yn gysylltiedig â'r Blaid Lafur"

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Cyngor Caerffili wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo ar unwaith.

Dywedodd Sean Morgan, a etholwyd yn arweinydd ym mis Mai 2022, ei fod yn "credu nad yw fy safle moesol yn caniatáu i mi fod yn gysylltiedig â'r Blaid Lafur erbyn hyn, felly rwyf wedi gwneud y penderfyniad anodd i gamu i lawr".

Ymatebodd llefarydd ar ran Llafur: "Gallwn gadarnhau nad yw'r Cynghorydd Sean Morgan bellach yn aelod o'r Blaid Lafur.

"Mae wedi rhoi ei resymau.

"Mae ei gyn-gydweithwyr ar y cyngor, a ninnau fel plaid, yn canolbwyntio ar gyflawni dros bobl Caerffili."

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CAERFFILIFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Bu Sean Morgan yn arweinydd y cyngor ers mis Mai 2022

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Caerffili, Richard Edmunds: "Hoffwn ddiolch i Sean am ei waith caled, ei ymroddiad a'i ymrwymiad i wella bywydau pawb ar draws ein cymunedau dros y tair blynedd diwethaf."

Bydd y Cynghorydd Morgan yn parhau fel cynghorydd annibynnol yn gwasanaethu ward Nelson tan etholiadau 2027.

Mae is-etholiad yn etholaeth Caerffili yn cael ei gynnal ar 23 Hydref ar gyfer Senedd Cymru.

Plaid Cymru oedd y cyntaf i gyhoeddi eu hymgeisydd ar gyfer yr is-etholiad, gan ddewis cyn-arweinydd cyngor Caerffili, Lindsay Whittle.

Y cyhoeddwr a'r dadansoddwr ariannol Richard Tunnicliffe sy'n sefyll dros y Blaid Lafur.

Ddydd Iau, cyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig mai Gareth Potter yw ymgeisydd y blaid.

Pynciau cysylltiedig