Chwilio am gynllun hirdymor i Sinimôn
- Cyhoeddwyd
Mae gwirfoddolwyr sy'n rhedeg sinema symudol ar Ynys Môn yn chwilio am ffyrdd o barhau gyda gwaith y cynllun peilot gwreiddiol.
Dechreuodd Sinimôn gludo taflunydd, sgrîn, offer sain a golau i neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol i ddangos ffilmiau cyfoes yn 2017.
Cafodd y prosiect ei greu yn y gobaith o ddod â chymunedau ynghyd â galluogi pobl i weld ffilmiau yn eu hardaloedd lleol.
Yn ôl un o weithwyr Menter Môn, fu'n gyfrifol am ariannu'r cynllun yn wreiddiol, "mae'n lot fwy na dangos ffilm".
'Gwneud rywbeth positif yn lleol'
Yn ôl Peter Davies, rheolwr contractau Sinimôn, mae'r tîm wedi dysgu cryn dipyn dros y blynyddoedd diwethaf.
"Bu'n rhaid i fi atgyfodi sgiliau dwi heb eu defnyddio ers blynyddoedd," meddai.
"Rydym wedi cael 20 dangosiad. Chafodd ddim un ei hysbysebu - cafodd sôn am y digwyddiadau eu rannu ar lafar gwlad... ond daeth dros 1,700.
"Mae cymunedau lleol wedi gallu defnyddio'r dangosiadau i godi arian i'w pentrefi.
"Mae'r prosiect wedi bod yn ffordd wych i gael pobl yr ynys i ddod ynghyd ac i wneud rhywbeth positif i'w hardal leol."
Bu plant Llangoed, ger Biwmares, yn gyfrifol am drefnu tri dangosiad llwyddiannus yn eu hardal, dan arweiniad mudiad ieuenctid, Llais Ni.
Dywedodd Mari, sy'n 13 oed: "Daethom at ein gilydd a siarad am beth oedd angen ar ein pentref, ac roeddem wrth ein bodd gyda'r syniad o gael noson sinema.
"Dywedodd pobl eu bod wedi mwynhau'r peth yn arw, a'u bod yn hoffi dod at ei gilydd - pobl o bob oed."
Yn ôl Lacey, sydd hefyd yn 13 oed, mae'r criw yn "mwynhau" dod at ei gilydd i drefnu'r digwyddiadau.
Ychwanegodd Eli, 13 oed, eu bod yn "rhoi hyder i ni, allu gweithio gyda ffrindiau a chymryd rhan yn y peth ar ben fy hun."
Rhywbeth i'r teulu cyfan
Dywedodd Jackie Lewis, o Fenter Môn bod Sinimôn yn cynnig rhywbeth i'r teulu cyfan.
"Yn sicr, be 'dan ni wedi ffeindio yw ei bod yn dod â theuluoedd cyfa' allan, o nain a taid i blant bach a maen nhw gyd yn gallu dod allan at ei gilydd ar eu stepen drws a chael noson i gofio," meddai.
"Mae gynnon ni dipyn bach o bres ar ôl yn y pot... mae o'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr sy'n cael dipyn bach o arian teithio... mae o'n rhywbeth eitha' technegol.
"'Dan ni yn chwilio am ffyrdd i symud o 'mlaen."
Un opsiwn ar gyfer gwneud incwm i ariannu'r prosiect yw ystyried gosod yr offer i westai a busnesau.
"Mae gynno ni gyfnod o ryw dri mis o drio gwahanol ffurff o wneud pethau. Fyswn i'n licio meddwl bod 'na ddyfodol iddo fo, a dwi'n siŵr bod 'na, achos mae 'na rai cymunedau sy'n medru talu be sy angen ei dalu i gael y gwasanaeth yna.
"Mae o 'di gwneud gwahaniaeth i gymunedau, a dod â phobol allan o'u tai. Mae'n ffor' i gymuned ddefnyddio adeiladu dy'n nhw ddim yn defnyddio digon, cael balchder yn ôl i'r pentra' a hefyd yn ffordd o godi arian i'r pentra'."
"Mae Sinimôn yn lot fwy na dangos ffilm."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2018
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2018