Sinema newydd am 'ddenu mwy' i Galeri Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
derbynfa newydd Galeri
Disgrifiad o’r llun,

Mae derbynfa newydd yn rhan o'r estyniad sydd wedi agor ddydd Gwener

Bydd estyniad newydd canolfan greadigol Caernarfon, Galeri, yn agor yn swyddogol ddydd Gwener.

Mae'r estyniad yn cynnwys dwy sgrîn sinema, derbynfa newydd, gofod arddangos ac ystafelloedd ar gyfer cynnal gweithdai celf.

I nodi'r achlysur, mae'r ganolfan yn cynnal sesiynau gyda'r actor Rhys Ifans ac yn dadorchuddio cerflun gan Llŷr Erddyn Davies y tu allan i'r adeilad.

Yn ôl y prif weithredwr mae "galw mawr" am sinema yn yr ardal, ac mae'n bwysig er mwyn sicrhau ei bod yn "ganolfan byw, byrlymus, modern".

Disgrifiad,

Dywedodd Gwyn Roberts bod yr estyniad yn ddatblygiad "pwysig iawn" i'r ganolfan

Nid oes sinema bwrpasol wedi bod yng Nghaernarfon ers i'r Majestic gau yn 1984.

Ar y Post Cyntaf, dywedodd Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri, ei fod yn gweld bod yna "alw am ddigwyddiadau celfyddydol", a bod "arlwy ychydig bach yn wahanol" i'r arfer yn cael ei gynnig yn y sinema newydd.

"Mae hwn yn sinema prif lif, a 'da ni wedi ffeindio bod 'na alw mawr amdano fo, a hynny gan bobl falle 'da ni heb weld yma o'r blaen," meddai.

"Mae o'n arbed siwrne 25 milltir i bobl sydd eisiau mynd i weld ffilm, ond mae hefyd yn creu bwrlwm a chanolfan byw, byrlymus, modern, sy'n gaffaeliad i'r dref."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd modd gweld amrywiaeth o ffilmiau ar ddwy sgrîn y sinema newydd

Yn ogystal â chroesawu'r cyfle i ddangos ffilmiau prif ffrwd ac annibynnol ar sgriniau'r sinema newydd, gobaith Nici Beech, Cyfarwyddwr Artistig Galeri, yw bydd y sinema hefyd yn "rhyddhau'r theatr i ni fedru defnyddio hwnnw ganol wythnos i wneud mwy o ddramâu".

Wrth gyfeirio at gyfnod o dreialu'r sinema newydd, dywedodd Mr Roberts: "Mae 'na bobl wedi dod drwy'r drws am y tro cyntaf [i'r sinema] a dwi'n gobeithio byddan nhw'n dod yma eto i weld dim jyst ffilmiau, ond pethau yn y theatr a'r safle celf hefyd.

"Rŵan mae'r gwaith caled o wneud iddo weithio yn dechrau de."