Angen £10,000 i gwblhau rheilffordd stêm yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae angen £10,000 i gwblhau rhan olaf rheilffordd rhwng dwy dref yn Sir Ddinbych.
Mae 10 milltir (16km) o drac eisoes wedi'i osod ar gyfer Rheilffordd Llangollen, rhwng Llangollen a Chorwen, gyda phlatfform arbennig wedi ei adeiladu ar ddiwedd y llinell.
Ond, mae arglawdd yn ffurfio bwlch rhwng yr orsaf newydd a gweddill y llinell.
Cafodd ei greu er mwyn galluogi mynediad i fferm garthffosiaeth ac mae angen iddo gael ei lenwi.
Unwaith byth y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau, bydd modd i drenau stêm deithio ar hyd y trac cyfan.
Esboniodd George Jones o Ymddiriedolaeth Rheilfordd Llangollen: "Cafodd y bwlch ei greu i roi mynediad i'r gwaith carthffosiaeth yn yr 1970au.
"Dyma ninna wedyn yn cyrraedd gyda'r prosiect rheilffordd, a rydym angen diogelu a llenwi'r bwlch i gwblhau'r cysylltiad."
Mae yna amcangyfrif y bydd angen 10 tunnell o rwbel i lenwi'r twll cyn y bodd modd gosod darn olaf y trac i gysylltu'r orsaf newydd â gweddill y rheilffordd.
Credir bydd y gwaith yn costio £10,000, ond gall fod yn llawer drutach.
Ger yr orsaf newydd yng Nghorwen, mae olion llinell arall a fu unwaith yn cysylltu Corwen a'r Rhyl.
Mae gan griw'r prosiect gynllun i balu'r rhan nad yw'n cael ei ddefnyddio a defnyddio'r ysbail i lenwi'r bwlch yn rheilffordd Llangollen.
"Mae gennym fynediad i ran fawr o'r arglawdd," dywedodd Peter Neve, un o reolwyr y prosiect.
"Rydym wedi defnyddio peth o'r ysbail yn barod i ledaenu'r arglawdd gwreiddiol [yng Nghorwen] felly rydym yn gwybod ei fod yn ddeunydd safonol.
"Felly mae'n fater syml o'i balu o 'na a'i symud fan hyn."
Mae datblygiad yr orsaf newydd yng Nghorwen wedi costio dros filiwn o bunnoedd, gyda swmp y gwaith hwnnw wedi dod o lafur gwirfoddolwyr.
Os lwyddith yr ymdrech i godi £10,000 i dalu am gwblhau'r trac, mae'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y rheilffordd yn credu y byddai modd agor yr orsaf newydd rhyw bryd eleni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2017
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2014