Dyn coll o Sir y Fflint fu farw yng ngwrthdrawiad Eryri

  • Cyhoeddwyd
Stephen John SharplesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Un cerbyd oedd yn y digwyddiad ar yr A498 ger hostel Bryn Gwynant

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai dyn o Sir y Fflint fu farw wedi gwrthdrawiad yn Eryri ddydd Sul.

Roedd Stephen John Sharples yn 56 oed ac o ardal Caergwrle.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A498 rhwng Pen-y-gwryd a Nant Gwynant tua 13:00, a'r gred yw bod ei gar Mazda MX5 wedi gadael y ffordd.

Roedd yr heddlu wedi apelio am gymorth y cyhoedd i ddod o hyd i Mr Sharples ddyddiau cyn y gwrthdrawiad.

Mae'r llu'n parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.