Oedi penderfyniad ar fferm ieir arfaethedig yn Llanegryn

  • Cyhoeddwyd
Ieir
Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion lleol yn pryderu byddai'r fferm ieir yn achosi llygredd a drewdod yn yr ardal

Mae pwyllgor cynllunio wedi penderfynu oedi cyn rhoi caniatâd i godi fferm ar gyfer 32,000 o ieir yn Llanegryn, Gwynedd.

Mewn cyfarfod ddydd Mercher, dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eu bod wedi derbyn gwybodaeth newydd yn ymwneud â'r cais, a bod angen digon o amser i bwyso a mesur.

Petai'r cynllun i godi'r fferm ar dir yn y pentref ger Tywyn yn gweld golau dydd, hi fyddai'r mwyaf o'i math ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae rhai o drigolion Llanegryn yn honni nad yw'r cynllun yn addas ar gyfer yr ardal, gyda nifer yn pryderu bydd y sied 135m o hyd yn achosi llygredd a drewdod.

Mae awdurdod y parc eisoes wedi rhoi caniatâd cychwynnol.

Niweidio 'brand Eryri'

Mae elusen Cymdeithas Eryri yn gwrthwynebu'r datblygiad ac mae cyfarwyddwr y gymdeithas, John Harold, yn poeni am ei effaith ar ffermio traddodiadol.

"Mewn cyfnod o ansicrwydd fel 'dan ni ynddo ar hyn o bryd mae brand Eryri yn hollbwysig, a 'dan ni wir yn credu ein bod yn gorfod bod yn ofalus iawn efo caniatáu datblygiadau sydd yn bosib yn mynd i ychwanegu llygredd, ac [effeithio ar] ansawdd y parc a'r cynefinoedd a'r amgylchedd.

"Ar hyn o bryd da' ni mewn lle da i adeiladu ar y sylfaen ffermio traddodiadol yn Eryri os 'dan ni'n agor y drysau i ffermio arddwys cynhyrchu bwyd mae 'na risg wanhau sut mae pobol yn edrych ar y cynnyrch."

Mae Alma Gabriel sy'n byw canllath o'r datblygiad arfaethedig yn poeni am effaith arogl a sŵn o'r fferm ar harddwch yr ardal, gan boeni y bydd yn "creithio'r tirlun".

Gohirio'r cynnig

Yn wreiddiol, fe wnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gytuno i'r cynnig ym mis Rhagfyr llynedd, ond mae'r pwyllgor cynllunio yn ei drafod ymhellach yn dilyn canllawiau cynllunio newydd gan Lywodraeth Cymru.

Roedd aelodau'r pwyllgor wedi cael argymhelliad i wrthod y cais - ond gohirio'r trafodaethau oedd penderfyniad y pwyllgor.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi dweud bod y rhai sydd wedi gwneud y cais wedi cynnwys gwybodaeth newydd am ffyrdd i leihau'r arogl o'r uned, a bod angen digon o amser i bwyso a mesur.