Merwino Moreno

  • Cyhoeddwyd

Os ewch chi i chwilio i berfeddion arolygon barn Cymreig fe ddewch o hyd i gwestiwn sydd aml yn cael ei anwybyddu gan y cyfryngau ond sy'n denu sylw helaeth gan seffolegwyr a chymdeithasegwyr. Cwestiwn ynghylch hunaniaeth yw cwestiwn Moreno a enwyd ar ôl yr academydd o Sbaen wnaeth ei ddyfeisio.

Mae'r fersiwn Cymreig yn gofyn p'un ai ydy pobol yn ystyried nhw ei hun yn Gymry, yn Brydeinwyr neu'r ddau ac, os felly, p'un yw'r bwysicaf o'r ddwy elfen.

Mae'r cwestiwn yn ddiddorol yn ei rhinwedd ei hun ond mae'n arwyddocaol hefyd o safbwynt gwleidyddol gan fod patrymau pleidleisio yng nghlwm i'r ymdeimlad o hunaniaeth.

Fel y byswch chi'n disgwyl, mae etholwyr sydd ar ben Cymreig y sbectrwm yn fwy ffafriol i Blaid Cymru. Mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y llaw arall yn pysgota yn y dyfroedd Prydeinig. Yn draddodiadol Llafur yw'r unig blaid sy'n apelio ar draws y sbectrwm sy'n esbonio'i gallu i ddominyddu gwleidyddiaeth Cymru.

Yn ddamcaniaethol felly, gallasai unrhyw newidiadau yn yr atebion i'r cwestiwn Moreno fod yn arwydd bod newid gwleidyddol ar ddod.

Yn arolwg barn diweddar BBC Cymru holwyd y cwestiwn Morino Cymreig i 676 o bobol a anwyd yng Nghymru. Roedd 21% o'r rheiny yn ystyried ei hun yn Gymry'n unig a 27% yn fwy o Gymry nac o Brydeinwyr. Roedd 44% yn ystyried y ddwy hunaniaeth yn gyfartal a'i gilydd, 5% yn fwy o Brydeinwyr nac o Gymry a dim ond 2% yn dweud eu bod yn Brydeinwyr yn unig.

Sut mae hynny'n cymharu ag arolygon blaenorol yw'r cwestiwn amlwg ond ofer? "Trendeless fluctuation" yw disgrifiad fy nghyfaill Richard Wyn Jones o'r data Merino. Hynny yw, dydyn nhw ddim yn gwbwl digyfnewid ond dydyn nhw ddim chwaith yn symud i unrhyw gyfeiriad arbennig.

Oes gwerth i'r cwestiwn felly, yn enwedig o gofio bod y cwestiwn ond yn berthnasol i 70% o sampl gyfan yr arolwg? Roedd y 30% arall wedi ei geni y tu allan i Gymru, y mwyafrif llethol ohonynt yn Lloegr. Siawns bod Seisnigo Cymru'n ffactor llawer mwy pwysig i ddyfodol ein gwleidyddiaeth na unrhyw newidiadau yng nghanfyddiadau'r rheini a anwyd yma.