Cyhoeddi carfan Cymru C i herio Lloegr mewn gêm gyfeillgar

  • Cyhoeddwyd
Cymru CFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lloegr oedd yn fuddugol o 3-2 yn y gêm ym mis Mawrth y llynedd

Mae rheolwr Cymru C, Mark Jones wedi dewis ei garfan ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr C yn ddiweddarach yn y mis.

Mae'r garfan wedi ei dewis o chwaraewyr Uwch Gynghrair Cymru yn unig.

Y Barri yw'r clwb gyda'r nifer mwyaf o chwaraewyr yn y garfan, gyda phump yn hawlio eu lle.

Colli o 3-2 wnaeth Cymru C yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Lloegr y llynedd.

Mae Chris Hugh, Kayne McLaggon a Jordan Cotterill ymysg y naw chwaraewr o garfan y llynedd sydd wedi eu henwi.

Bydd Cymru C yn wynebu Lloegr C yn Stadiwm Peninsula, Salford City ar 19 Mawrth.

Grey line

Carfan Cymru C

Gôl-geidwad: Alex Ramsey (Caernarfon), Ashley Morris (Y Bala).

Amddiffynwyr: Callum Roberts (Y Drenewydd), Christopher Hugh (Y Barri), Emlyn Lewis (Met Caerdydd), Joel Edwards (Met Caerdydd), Kai Edwards (Llandudno), Nathan Peate (Derwyddon Cefn).

Canol Cae: Aeron Edwards (Y Seintiau Newydd), Chris Venables (Y Bala), Clayton Green (Y Barri), Henry Jones (Y Bala), Jake Phillips (Cei Connah), Jordan Cotterill (Y Barri), Matthew Jones (Aberystwyth), Robbie Patten (Y Barri).

Ymosodwyr: Adam Roscrow (Met Caerdydd), Danny Brookwell (Caernarfon), Eliot Evans (Met Caerdydd), Kayne McLaggon (Y Barri), Liam Thomas (Caerfyrddin).