'Cyngor wedi cynnwys llwybr ceffylau wrth wrthod bws ysgol am ddim'

Megan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Megan, 11, yn paratoi i ddechrau yn yr ysgol uwchradd yr wythnos nesaf

  • Cyhoeddwyd

Mae mam o ogledd Cymru'n dweud bod cyngor sir wedi cynnwys llwybrau ceffylau a throed wrth benderfynu nad oedd ei merch yn gymwys am fws ysgol am ddim i'w hysgol o'i dewis.

Bydd Megan - merch Ffion Jones o ardal Glyndyfrdwy yn Sir Ddinbych, yn dechrau yn Ysgol Godre'r Berwyn yn Y Bala yr wythnos nesaf, yr ysgol uwchradd gwbl Gymraeg agosaf at eu cartref, meddai.

Er hyn, mae Ms Jones yn honni fod Cyngor Sir Ddinbych wedi gwrthod cludiant ysgol am ddim i'r ysgol honno i Megan gan ddweud fod ysgolion eraill nes - gan eu bod yn ystyried llwybrau ceffylau, ffyrdd wedi'u haddasu a llwybrau troed wrth fesur pellter.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael cais am sylw.

Megan a Ffion

Dywedodd Ms Jones: "Aru tad Megan a'i frawd a chwaer fynd i'r ysgol yna, so mae Megan isio dilyn ôl-troed ei thad, mae hi wastad isio addysg Gymraeg a hwnna sydd yn gweddu yn well iddi hi."

Fe wnaeth Megan gais ar gyfer Ysgol Godre'r Berwyn, ac fe ddywedodd Ms Jones fod "Megan wedi cael lle yn yr ysgol".

Ychwanegodd: "Wedyn aru ni drio cael lle ar y bws... ac wedyn o'n i ddim yn disgwyl cael trafferth o gwbl achos o be' o'n i'n gallu gweld, Bala oedd yr ysgol agosaf Gymraeg llawn i ni.

"Mi nath y cyngor wrthod rhoi bus pass i Megan... maen nhw'n deud bod 'na dair ysgol arall yn agosach."

'Nerfus a trist'

Fe gafodd Megan gynnig cludiant am ddim i Ysgol Dinas Brân yn Llangollen, Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun ac Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam.

Ond yn ôl Ms Jones, dydy'r ysgolion yma ddim yn opsiynau addas i'w merch.

Mae ysgolion Dinas Brân a Brynhyfryd yn cynnig ffrydiau addysg Gymraeg, ond maen nhw'n ysgolion dwyieithog.

Dywedodd Megan, sy'n 11 oed, fod yr holl sefyllfa wedi gwneud iddi deimlo yn "nerfus ac yn drist".

"Dwi'n drist achos mae gyd o ffrindiau fi yn mynd ar y bws a dwi'n nerfus achos os faswn i'n gorfod mynd ar y T3 [bws cyhoeddus] 'swn i arno fo ar ben fy hun."

Heb bàs bws gan y cyngor, byddai'n costio oddeutu £4.10 y dydd i Megan fynd ar y bws.

Dywedodd Megan bod yr ysgolion eraill gafodd eu cynnig "ddim yn hollol Gymraeg, a dwi ddim yn nabod neb sy'n mynd i Morgan Llwyd".

Ffion Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Jones wedi dweud fod y sefyllfa wedi rhoi "nosweithiau di-gwsg" iddi

Mae'r teulu'n dadlau bod Y Bala mewn gwirionedd yn nes at eu cartref - ac yn anghytuno â'r system mae'r cyngor yn ei defnyddio i benderfynu pellter.

"Mae'r cyngor wedi dweud mai'r system maen nhw'n ddefnyddio ydi defnyddio'r llwybrau ceffylau a'r adaptive routes yma mewn i consideration sydd wedyn yn 'neud Ysgol Brynhyfryd a Morgan Llwyd yn agosach ac yna Bala, Ysgol Godre'r Berwyn yn bellach i ffwrdd.

"'Da ni mewn ardal efo rural routes, felly mae 'na lot o fatha bridleways ond does neb yn defnyddio rheiny dyddia yma a dydyn nhw ddim yn addas i Megan fynd i'r ysgol chwaith."

Yn lle hynny, mae Ms Jones yn dweud bod Cyngor Sir Ddinbych wedi awgrymu y gallai disgyblion dalu i ddefnyddio gwasanaeth bws cyhoeddus i fynd i'r ysgol, ond dywedodd nad ydy hi na'i merch yn gyfforddus i wneud hynny.

Dywedodd Ms Jones y bydd yn rhaid iddi hi rŵan fynd â Megan i'r ysgol ei hun.

"Na'i drafeilio yna i fynd â hi, ond dwi'n weld o'n wirion bo' fi'n gorfod rhoi fy hun yn y sefyllfa yna pan mae 'na fws yn gadael o Corwen," meddai.

"Fydda' i'n trafeilio wrth ochr y bws yna achos fyddwn ni'n trafeilio yr un amser.

"Dwi ddim yn dallt sut mae nhw'n gweld bod y bridleways yma yn iawn i ddefnyddio yn 2025, dyddia' yma does neb yn defnyddio nhw, ac mae just yn sboelio gwyliau haf Megan. Mae hi'n poeni am y peth. Dylsa hi fod yn edrych ymlaen i fynd efo'i ffrindiau hi.

"[Dwi'n] teimlo fod lle 'da ni'n byw, mewn lle rural, bo' ni'n cael ein cosbi am hynny a gan fod mwy o bridleways ffordd yma... 'di o just ddim yn 'neud sense i fi."

Gohebiaeth gan y cyngor

Roedd Ms Jones hefyd yn pryderu ynghylch y broses o gyfathrebu gyda Chyngor Sir Ddinbych drwy'r Gymraeg.

Mae hi'n honni ei bod wedi gorfod aros cyfnod hirach am ymateb i'w cheisiadau yn y Gymraeg.

Dywedodd ei bod wedi gorfod aros 19 diwrnod am ateb i e-bost a ysgrifennodd yn y Gymraeg.

"Nes i ateb nhw yn Saesneg wedyn i weld os fysa fo'n gwneud gwahaniaeth ac wedyn nes i gael ateb mewn awr wedyn.

"O'n i wedi siomi really... os mae'n deud ar y we, does 'na ddim gwahaniaeth os ti'n gyrru e-bost yn Saenseg neu yn Gymraeg, dim gwahaniaeth 'efo amser, ond mae'n dangos bod yna."

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael cais am sylw i'r pryderon ynghylch defnyddio llwybrau ceffylau a llwybrau troed i bennu pellteroedd, a honiadau Ms Jones am amseroedd ymateb i'w negeseuon e-bost Cymraeg.

Pynciau cysylltiedig