Carcharu dyn o Wynedd am droseddau rhyw yn erbyn plant
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Wynedd wedi cael dedfryd o 21 mis o garchar am greu a dosbarthu lluniau anweddus o blant.
Fe wnaeth Emlyn Williams, 60 oed o Glynnog Fawr, bledio'n euog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau.
Clywodd y llys bod ganddo 3,156 delwedd a 1,430 fideo yn ei feddiant, tra bod bron i 17,000 yn rhagor heb eu categoreiddio.
Dywedodd yr erlynydd, Mark Conner fod rhai o'r plant yn y delweddau ond yn ychydig fisoedd oed.
Cafodd Williams ei arestio fis Mehefin y llynedd wrth gyrraedd siop Tesco Caernarfon, lle roedd yn gweithio.
Roedd hynny wedi i'r Asiantaeth Trosedd Genedlaethol roi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru bod un o ddefnyddwyr yr ap KiK wedi uwchlwytho deunydd anweddus o blant.
Clywodd y llys bod yr ap yn cael ei ystyried ar un cyfnod fel "man diogel" i bedoffiliaid rannu deunydd.
Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn, Simon Killeen bod y diffynnydd yn difaru'r hyn a wnaeth ac wedi cyfaddef ei droseddau wrth gael ei holi gan yr heddlu.
Ychwanegodd ei fod yn dymuno mynd i'r afael â'i ymddygiad, a'i fod wedi colli ei swydd.
Yn ogystal â dedfryd o garchar, derbyniodd Williams orchymyn atal niwed rhyw a bydd ei enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw.