Atal teithiau bws nos wedi ymddygiad gwrthgymdeithasol

  • Cyhoeddwyd
Bysus ArrivaFfynhonnell y llun, PA

Mae cwmni bysiau wedi penderfynu dod â theithiau hwyr nos Sadwrn rhwng Pwllheli a Blaenau Ffestiniog i ben, yn sgil cwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd Bysiau Arriva Cymru eu bod y penderfyniad yn dilyn "nifer o ddigwyddiadau" oedd yn amharu ar ddiogelwch teithwyr ar wasanaeth 3B.

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn archwilio tystiolaeth o gamerâu cylch cyfyng y bysiau i weld os bu unrhyw droseddu.

Ychwanegodd y llu nad ydyn nhw'n "goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol".

Diogelwch yn flaenoriaeth

Mae'r cwmni wedi rhoi'r gorau i'r gwasanaeth ar nosweithiau Sadwrn rhwng 21:35 a 22:51.

Dywedodd llefarydd: "Ein blaenoriaeth yw diogelwch ein cwsmeriaid ac o ganlyniad mae tîm y pencadlys ym Mangor wedi penderfynu rhoi'r gorau i'r daith honno er mwyn atal y fath ymddygiad."

Yn ôl yr arolygydd Matthew Gedde o Heddlu'r Gogledd: "Ni fyddwn yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol ac fe fydd tîm plismona de Gwynedd yn gweithredu, ond wrth wneud, mae angen cefnogaeth teuluoedd y bobl ifanc sy'n rhan o'r camymddwyn, drwy bwysleisio beth sy'n ymddygiad derbyniol."

"Er mai penderfyniad Bysiau Arriva Cymru yw rhedeg y gwasanaeth neu beidio, rwy'n hyderus, wedi i ni gydweithio, fod digon o gefnogaeth i ailddechrau'r gwasanaeth yn gyflym ac yn ddiogel."