Taith gerdded i gofio un o bêl-droedwyr y canolbarth
- Cyhoeddwyd
Bydd criw o gerddwyr yn cychwyn ar daith bedwar diwrnod ddydd Gwener i gofio am un o bêl-droedwyr amlycaf y canolbarth yn y 70au - Dias Williams.
Bu farw David Williams yn 39 oed o ganser yn Nhachwedd 1988, a ddydd Llun byddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 70.
Bydd yr arian a godir o'r daith, a fydd oddeutu 70 milltir, yn cael ei roi i gronfa canser Macmillan.
Cafodd David Williams ei eni ym Mhontrhydfendigaid ac adeg ei farw roedd yn brifathro Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn.
11 gôl mewn un gêm
Un o'i ffrindiau pennaf a chadeirydd Dias70 yw John Meredith, ac wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd: "Roedd Dias yn chwaraewr anhygoel ac yn adnabyddus i bawb oedd â diddordeb mewn pêl-droed - fe gafodd ei enwi ar ôl Roberto Dias, y chwaraewr pêl-droed o Frasil.
"Mae 'na un gêm gofiadwy pan sgoriodd Dias 11 gôl i Aberystwyth yn erbyn Llandrindod.
"Ro'n i'n ffrind mawr iddo gan bo' ni'n dau yn dod o Bont, roeddwn yn chwarae ffwtbol bwti bod bob nos pan yn blant a wedyn yn chwarae i'r un timau."
Bu Dias yn chwarae i dimau Aberystwyth, Trawscoed, Llanidloes, Penrhyn-coch, Dewi Stars (Llanddewi Brefi) a Bont, a dros y pedwar diwrnod nesaf bydd y cerddwyr yn ymweld â phob un o'r caeau pêl-droed.
Ychwanegodd Mr Meredith: "Ry'n yn edrych mla'n at y daith gerdded beth bynnag yw'r tywydd.
"Byddwn yn dechrau ddydd Gwener o Stesion Strata yn Bont - man geni Dias - a cherdded ar hyd yr hen reilffordd i Aberystwyth ac yn digwydd bod mae Aberystwyth yn chwarae yn erbyn Caerfyrddin nos Wener.
"Ar ddechrau pob gêm bydd chwiban yn cael ei chwythu."
"Ddydd Sadwrn byddwn yn cerdded i gae Llanidloes o gloc Machynlleth, taith 20 milltir, ddydd Sul byddwn yn cychwyn eto o Bont - i gae Trawscoed y tro hwn - ac yna i Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn ac yn ddiweddarach i gae Penrhyn-coch.
"Ddydd Llun byddwn yn teithio o Lambed - cartref Marjorie, gwraig Dias - i Lanfair Clydogau, yna i Landdewi Brefi a 'nôl i Bont i gael cawl.
"Mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno â ni ar y daith."
Ar droad y ganrif cafodd eisteddle i gofio am Dias ei sefydlu yng Nghoedlan y Parc yn Aberystwyth - eisteddle a gafodd ei hagor yn swyddogol gan y pêl-droediwr John Charles.
Bydd gweddw Dias a'i ddau fab, Owain a Siôn, hefyd yn ymuno â'r daith 70 milltir i nodi y pen-blwydd yn 70.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2018
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2016