Gatland: Wythnos 'heriol' i dîm Cymru cyn gêm yr Alban

  • Cyhoeddwyd
Warren GatlandFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Warren Gatland wedi gwneud un newid i dîm Cymru fydd yn dechrau'r gêm yn erbyn Yr Alban

Yn dilyn wythnos o ansicrwydd oddi ar y cae i nifer o chwaraewyr Cymru, mae carfan Warren Gatland yn paratoi i wynebu'r Alban ddydd Sadwrn gan geisio cadw eu gobeithion o ennill y Gamp Lawn yn fyw.

Fe ddywedodd bachwr Cymru, Ken Owens mai dyma'r "sefyllfa anoddaf i mi ac eraill ei hwynebu yn ystod fy ngyrfa" wrth i Undeb Rygbi Cymru gynnal trafodaethau i ad-drefnu'r rhanbarthau.

Yn dilyn y fuddugoliaeth o 21-13 yn erbyn Lloegr yn eu gêm ddiwethaf, mae Gatland wedi gwneud un newid i dîm Cymru fydd yn dechrau'r gêm yn erbyn Yr Alban.

Bydd y clo, Adam Beard yn dechrau'r gêm yn lle Cory Hill, sydd allan o weddill y gystadleuaeth yn dilyn anaf i'w bigwrn.

Yr unig newid arall i'r garfan yw bod Jake Ball yn cymryd lle Beard ar y fainc.

Pedwar newid i'r Alban

Yn y cyfamser, does dim lle i'r capten Greig Laidlaw yn nhîm Yr Alban, gydag Ali Price yn dechrau'n safle'r mewnwr yn ei le.

Mae hynny'n un o bedwar newid sydd i dîm Gregor Townsend ar gyfer y gêm yng Nghaeredin.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Owens mai dyma'r "sefyllfa anoddaf i mi ac eraill ei hwynebu yn ystod fy ngyrfa" wrth i Undeb Rygbi Cymru gynnal trafodaethau i ad-drefnu'r rhanbarthau

Wrth baratoi ar gyfer gêm ddydd Sadwrn, fe gyfeiriodd Gatland at yr ansicrwydd ynglŷn â dyfodol nifer o chwaraewyr Cymru yn sgil trafodaethau am y posibilrwydd o uno'r Scarlets a'r Gweilch.

Mae 13 o'r chwaraewyr yng ngharfan Cymru yn chwarae i'r naill dim neu'r llall.

Mae'r ansicrwydd ynglŷn â'u cytundebau ar gyfer y dyfodol wedi cael effaith ar y garfan, meddai.

"Heb os mae hi wedi bod yn her i'r chwaraewyr yn y dyddiau diwethaf.

"Tydi'r amseru ddim yn berffaith o'n safbwynt ni, ond dyna sy'n digwydd yn y byd chwaraeon proffesiynol. I fod yn deg i'r chwaraewyr, yn dilyn eu cyfarfod, mae eu ffocws nhw ar y gêm," meddai.

Fe fyddai buddugoliaeth ddydd Sadwrn yn golygu y bydd Cymru gam yn nes at sicrhau'r Gamp Lawn, gydag un gêm yn weddill yn erbyn Iwerddon ar benwythnos olaf y bencampwriaeth.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Cymru eu gêm ddiwethaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd o 21-13

Tîm Cymru

Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Gareth Anscombe, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (C), Josh Navidi, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Elliott Dee, Nicky Smith, Dillon Lewis, Jake Ball, Aaron Wainwright, Aled Davies, Dan Biggar, Owen Watkin.

Tîm Yr Alban

Blair Kinghorn; Tommy Seymour, Nick Grigg, Pete Horne, Darcy Graham; Finn Russell, Ali Price; Allan Dell, Stuart McInally (C), Willem Nel, Grant Gilchrist, Jonny Gray, Magnus Bradbury, Jamie Ritchie, Josh Strauss.

Eilyddion: Fraser Brown, Gordon Reid, Simon Berghan, Ben Toolis , Hamish Watson, Greig Laidlaw, Adam Hastings, Byron McGuigan.