Ai hon yw'r wythnos bwysicaf eto i Brexit?
- Cyhoeddwyd
Mis Ionawr fe gollodd Theresa May y bleidlais gynta' ar ei chytundeb Brexit yn drwm.
Cafodd cyfaddawd y prif weinidog ei wrthod o 230 o bleidleisiau - y golled fwyaf erioed i lywodraeth yn San Steffan.
Ei chynllun hi nawr ydi cynnig ail bleidlais i Aelodau Seneddol ar ei chytundeb ddydd Mawrth.
Mae'r llywodraeth yn ceisio cael newidiadau i'r cytundeb, ac yn benodol y backstop - y cynllun i osgoi ffin galed ar ynys Iwerddon wedi Brexit.
Felly pa mor bwysig fydd y dyddiau nesa'?
"Dwi'n credu fod yr wythnos o'n blaen ni yn fwy arwyddocaol na'r un wythnos ers i fi fod mewn gwleidyddiaeth," meddai Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies.
"Dwi eisiau symud ymlaen. Mae popeth dwi'n wneud nawr, popeth yn y siambr, popeth yn y byd gwleidyddol, mae Brexit yn cael effaith ar bopeth. Does dim pwynt siarad am ddim byd arall ond Brexit.
"Os ydw i'n mynd allan i Sir Drefaldwyn i siarad mae pawb yn gofyn be' dwi'n feddwl am Brexit.
"Os nad ydyn ni'n cytuno ar beth sy' o'n blaenau ddydd Mawrth dwi'n credu y bydd hwn yn cario ymlaen am ddwy flynedd eto."
Be' nesa'?
Os ydi'r cytundeb yn pasio, bydd y Deyrnas Unedig yn gadael ar 29 Mawrth.
Er, mae yna rai wedi awgrymu y bydd angen gohiriad byr i gwblhau'r broses.
Ond be' os ydi Aelodau Seneddol yn gwrthwynebu'r cytundeb eto?
Os na fydd gan y prif weinidog fwyafrif ddydd Mawrth fe fyddan nhw'n pleidleisio ar y syniad o adael heb gytundeb y diwrnod canlynol.
Os ydi hynny'n cael ei wrthod, fe fydd 'na bleidlais ar ohirio Brexit ddydd Iau.
Ac os ydi Aelodau Seneddol yn cefnogi gohiriad? Yna fe fyddai Theresa May yna'n gofyn i'r Undeb Ewropeaidd i ohirio Erthygl 50.
Os byddai'r gwledydd eraill yn cytuno, yna bydd 'na ohiriad i Brexit. Yn ôl y prif weinidog, ddylai hyn ddim bod yn hirach na thri mis.
'Chwalfa llwyr'?
Mae'r blaid Lafur yn dweud eu bod nhw'n barod i gefnogi refferendwm arall i atal "Brexit Ceidwadol niweidiol".
Dywedodd yr AS Llafur dros Lanelli, Nia Griffith: "Mae hyn yn amlwg yn wythnos arwyddocaol iawn gan y bydd y pleidleisiau yn effeithio ar ein heconomi a swyddi etholwyr am flynyddoedd i ddod.
"Ar ôl blynyddoedd o ddiffyg gweithredu a misoedd o oedi, mae'n iawn y bydd ASau yn dweud eu dweud ar gynigion y llywodraeth a'r hyn sy'n digwydd nesaf os bydd y rhain yn cael eu trechu."
Yn ôl AS Plaid Cymru Jonathan Edwards, fe allwn fod mewn "sefyllfa wleidyddol ddiddorol iawn" erbyn diwedd yr wythnos.
Ychwanegodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: "Gallwn ni gael chwalfa llwyr yn arwain efallai at etholiad neu refferendwm brys ar y cytundeb neu fod y Senedd fan hyn yn Llundain yn cytuno i ddweud wrth y llywodraeth bod angen cyfnod ail-negodi hir iawn i ddod dros yr ail gyfnod o Brexit, sef y cytundeb masnach fydd yn parhau nifer fawr o flynyddoedd."
Mae 'na sawl wythnos wedi ei disgrifio yma yn San Steffan dros y misoedd diwethaf fel rhai "allweddol", "pwysig", "tyngedfennol".
Mae'r wythnos hon yn sicr yn deilwng o'r disgrifiadau hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2019