Academydd yn osgoi carchar am wylio pornograffi plant
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-academydd ym Mhrifysgol Bangor wedi osgoi cyfnod o garchar ar ôl cyfaddef i droseddau yn ymwneud â delweddau anaddas o blant.
Cyfaddefodd Dr Ian Connor, sy'n 53 oed ac o Ruthin, i ddosbarthu tair delwedd anweddus o blant yn y categori gwaethaf a gwneud 41 arall yn bennaf yn y categori lleiaf difrifol
Dywedodd y barnwr Huw Rees yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener fod y diffynnydd wedi gweithio mewn addysg am flynyddoedd lawer, ond ei fod wedi dechrau ymhel â gwefannau o natur "eithafol".
"Fe ddylech fod â chywilydd llwyr o'ch gweithredoedd," meddai'r barnwr wrth Connor. "Mae amlygu diddordeb mewn delweddau o'r fath yn creu galw am fwy o achosion o gam-drin plant."
'Chwant' i wylio pornograffi plant
Dywedodd Kevin Jones ar ran yr erlyniad fod gan Connor ffôn symudol a chyfrifiadur ac roedd wedi defnyddio wi-fi Prifysgol Bangor a chreu proffil ffug ar Twitter.
Fe gollodd ei swydd yn y brifysgol - a oedd wnelo dim â'i arestio - ond roedd ganddo swydd newydd.
Fe benderfynodd y barnwr i osod gorchymyn cymunedol i daclo "chwant" Connor i wylio pornograffi plant.
Bydd yn rhaid iddo hefyd wneud 150 awr o waith heb dâl a chafodd orchymyn atal niwed rhywiol o bum mlynedd ei wneud yn ei erbyn.