Cwmni llaeth cydweithredol yn gosod targed carbon isel
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r cwmnïau llaeth cydweithredol mwyaf yn Ewrop wedi cyhoeddi eu bwriad i gael gwared â, neu wneud yn iawn am, eu holl allyriadau carbon erbyn 2050.
Dywed Arla Foods, sydd â chytundeb gyda 90 o ffermydd yng Nghymru, eu bod am gael eu gweld fel cwmni sy'n arwain yn y maes.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gosod nod i weinidogion fod yn rhaid i allyriadau fod o leiaf 80% yn is erbyn 2050., dolen allanol
Dywedodd llefarydd ar ran Arla eu bod yn ymateb i'r drafodaeth ynglŷn â gallu'r diwydiant llaeth i fod yn gynaliadwy, yn enwedig o ystyried cynnydd yn nifer figaniaid a'r rhai sy'n ymgyrchu dros hawliau lles anifeiliaid.
"Mae rhai yn dadlau nad yw'r diwydiant yn gynaliadwy nac yn ffit i bwrpas," meddai.
"Ond mae safonau uchel o ran lles anifeiliaid yn ganolog i bob ffarm, ac mae ffermwyr yn cymryd camau mawr i gydweithio gyda'r byd natur o'u cwmpas."
Dywed Arla eu bod eisoes wedi cymryd camau i ddiogelu'r amgylchedd ac maen nhw eisoes wedi gostwng eu hôl troed carbon o 24% ers 1990.
Dywedodd Aled Vaughan-Jones sy'n cyflenwi Arla ac yn ffermio buches 350 o wartheg holstein yn ardal Llambed ei fod yn croesawu'r cyhoeddiad.
Mae'n credu bydd o ddim yn golygu fawr o gost ychwanegol os o gwbl ac y bydd yna fudd i'r cynllun o ran cadw cwsmeriaid.
"Fel arfer mae ffermwyr sy'n eitha carbon efficient yn fwy effeithiol beth bynnag," meddai Mr Vaughan-Jones sy'n rheoli'r fferm gyda'i wncwl a'i gefnder, gyda'r teulu wedi bod ar y tir am dair cenhedlaeth.
"Ac o safbwynt y cwsmer bydd e'n help," meddai.
"Bydd e'n golygu newid bwydydd ni'n prynu, ond bydd pobl yn fwy parod i brynu os ma' nhw'n meddwl fod yna gost sero carbon, bydd hwnna'n dod yn fwy pwysig.
"Dwi'n credu bydd y cwsmer yn prynu fewn i'r syniad."
"Dyma ydi nod Arla, ond rhai i ni gofio fod ni yn rhan o'r broses, ac yma gyda ni mae'r broses yn dechrau."
Mae targed Arla wedi cael ei groesawu gan NFU Cymru.
Dywedodd dirprwy lywydd y mudiad, Aled Jones, fod yr amcanion yn debyg iawn i'r rhai sydd eisoes wedi eu gosod gan yr NFU, sef sero.
"Fel diwydiant rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau amgylcheddol yn hynod ddifrifol ac rydym yn gyson edrych am ffyrdd i weld perfformiad amgylcheddol y sector er mwyn cwrdd â'n gofynion o ran newid hinsawdd.
"Yn y dyfodol, rydym yn ymwybodol y bydd ein systemau cynhyrchu bwydydd ar lefel byd eang yn wynebu heriau o ran newid hinsawdd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2018
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2019