Penderfyniadau 'anodd eithriadol' wrth bennu treth cyngor

  • Cyhoeddwyd
Treth

Mae cynghorau wedi gorfod gwneud "penderfyniadau anodd eithriadol" i gadw'r ddesgil yn wastad yn ariannol wrth osod eu cyllidebau a phennu treth y cyngor, yn ôl un arweinydd cyngor.

Mae trigolion yn wynebu cynnydd yn y dreth sy'n amrywio o 3.6% yn Rhondda Cynon Taf i bron 10% yn Sir Benfro, er bod y sir honnw'n codi llai na rhai eraill.

Dywedodd arweinydd Cyngor Torfaen, Anthony Hunt, mai dim ond hyn a hyn o arbedion sy'n bosib os am sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cynnal.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod cynghorau wedi cael "y setliad gorau posib".

Mae arian craidd Llywodraeth Cymru'n cyfateb i rhwng dau draean a thri chwarter o gyllideb pob awdurdod lleol unigol.

Fydd arian craidd yr un cyngor yn codi digon i gyfateb i chwyddiant. Cyngor Caerdydd gafodd y cynnydd uchaf - 0.9% - ac fe gafodd pum cyngor ostyngiad o 0.3%.

Gyda chyfran helaeth o wariant y cynghorau yn mynd at wasanaethau statudol fel ysgolion a gofal cymdeithasol, mae arweinwyr cyngor wedi gorfod chwilio am doriadau posib mewn meysydd eraill.

Ymhlith y cynigion a fu'n rhaid eu rhoi o'r neilltu oherwydd gwrthwynebiad y cyhoedd mae toriadau i wasanaethau llyfrgell ym Mhowys, dileu parcio am ddim dros gyfnod y Nadolig yng Ngwynedd, a chwtogi hebryngwyr croesfannau ysgol ym Mlaenau Gwent.

'Bwlch mawr'

Dywedodd y Cynghorydd Hunt, llefarydd cyllid ac adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae awdurdodau lleol yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd eithriadol er mwyn cydbwyso'r cyllidebau a'r dreth cyngor ar gyfer 2019-20.

"Oherwydd y llymder, sy'n parhau, mae cynghorau wedi eu gadael gyda bwlch mawr ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan nad yw'r cyllid yn cynyddu yn unol â'r pwysau ar wasanaethau fel gofal cymdeithasol."

Dywedodd bod cynllunio cyllidebau hefyd yn fwy anodd oherwydd ansicrwydd dros bwy fydd yn talu am godiadau sydd wedi'u cytuno ar lefel genedlaethol ym mhensiynau a chyflogau ar gyfer gweithwyr yn cynnwys athrawon a swyddogion tân.

Ond mae'n canmol Llywodraeth Cymru am y ffordd y bu'n cydweithio gyda'r awdurdodau lleol wrth geisio pwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o arian.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi cynnig y setliad gorau posib i lywodraeth leol yn y nawfed blwyddyn o lymder, gan leihau'r toriad roedd y cynghorau wedi ei ragweld.

"O ganlyniad, mae'r toriad o 1% a gyhoeddwyd yng nghyllideb terfynol 2018-19 bellach yn gynnydd o 0.2%... [a threfniant] fel bod yr un awdurdod lleol yn wynebu gostyngiad o fwy na 0.3% yn ei arian craidd."

Dywedodd y llefarydd bod yr arian craidd o £4.2bn i gynghorau yn cael ei rannu yn ôl fformiwla sy'n asesu'r angen cymharol ac yn ystyried "toreth o wybodaeth" am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol yr awdurdodau lleol.

Er i Gyngor Sir Penfro osod y cynnydd treth cyngor mwyaf eto eleni, dyma'r sir sydd âr biliau lleiaf yn achos bob math o eiddo - £1,092 eleni ar gyfer eiddo Band D.

Mae'r ddau gyngor sydd â'r cynnydd lleiaf ymhlith y rhai sydd â biliau mwyaf uchel.

Mae'r cyfraniadau ar gyfer yr heddlu a chynghorau tref a chymuned yn gallu ychwanegu tua £300 y flwyddyn i fil terfynol bob cartref.

Bu'n rhaid i arweinwyr dau gyngor - Powys a Bro Morgannwg - wrthsefyll gwrthwynebiadau ymhlith aelodau eu grwpiau eu hunain cyn cael sêl bendith i'w cyllidebau.

Cynnydd treth cyngor a biliau blynyddol Band D ar gyfer 2019-20 (heb gynnwys cyfraniadau i'r heddlu a chynghorau cymuned)

Abertawe 5.99% - £1,345

Blaenau Gwent - 4.9% - £1,648

Bro Morgannwg - 4.9% - £1,245

Caerdydd 4.9% - £1,212

Caerfyrddin - 4.89% - £1,256

Caerffili - 6.95% - £1,131

Casnewydd - 5.95% - £1,120

Castell-nedd Port Talbot - 4% - £1,557

Ceredigion - 7% -£1,312

Conwy - 9.6% - £1,280

Dinbych - 6.35% - £1,327

Gwynedd - 5.8% - £1,376

Merthyr Tudful 5.99% - £1,590

Mynwy - 5.95% - £1,316

Penfro - 9.92% - £1,093

Pen-y-bont ar Ogwr - 5.4% - £1,471

Powys - 9.5% - £1,302

Rhondda Cynon Taf - 3.6% - £1,457

Torfaen - 5.95% - £1,315

Wrecsam - 5.5% - £1,151

Y Fflint - 8.75% - £1,281

Ynys Môn - 9.5% - £1,248