Dosbarthu sachau arbenigol ar gyfer geni yn y cartref

  • Cyhoeddwyd
Pregnant woman with cupFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Efallai bydd merched yn teimlo wedi ymlacio mwy ac ymdopi'n well â rhoi genedigaeth yn y cartref, medd y Gwasanaeth Iechyd

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn treialu "sachau arbenigol" i hybu genedigaethau diogel yn y cartref.

Hywel Dda yw'r unig fwrdd iechyd yng Nghymru i dreialu y cyfarpar newydd. Mae'r bwrdd iechyd yn ymestyn ar draws ardal wledig eang ac o ganlyniad mae mwy o ferched yn rhoi genedigaeth adref.

Yn 2017, rhoddodd 3.9% o ferched yn ardal Hywel Dda enedigaeth adref - y ffigwr ar draws Cymru oedd 2.4% (770 o 32,236). Roedd y gyfradd ym Mhowys yn 8%.

Mae'r sach yn cynnwys siswrn i dorri'r cordyn, het a thywelion ar gyfer y newydd-anedig ac offer argyfwng.

Dywedodd Catrin Davies o Aberystwyth ei bod wedi ystyried geni adref ond ei bod yn "ofnus".

Cafodd ei mab Sam ei eni yn ysbyty Bronglais yn Ionawr 2018 drwy lawdriniaeth frys wedi iddi gael triniaeth i brysuro'r enedigaeth ar ôl 42 wythnos.

Dywedodd: "Doeddwn i ddim go iawn am eni adref ond mi wnes i ystyried y posibilrwydd yn y misoedd cyntaf.

"Doeddwn i ddim yn poeni am y rhan fwyaf o'r amser ond mi wnes i ystyried be fyddai'n digwydd petai'r tywydd yn wael a finnau methu cyrraedd yr ysbyty - roeddwn hefyd yn ymwybodol bo fi'n mynd dros amser yn ystod cyfnod y Nadolig."

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies
Disgrifiad o’r llun,

Catrin Davies, ei mab Sam a'i dyweddi Luke Palmer Jones

Dywed y fam 31 oed ei bod yn ofni petai hi'n rhoi genedigaeth adref na fyddai'n derbyn cymaint o gefnogaeth.

"Roedd y syniad o roi genedigaeth adref yn fy nychryn a mae e o hyd," dywedodd.

"Petai rhywbeth yn mynd o'i le - gallai gymryd mwy o amser i'w ddatrys.

"Mi ges i, er enghraifft, drafferth bwydo o'r fron ac roedd bydwragedd yn ymyl i fy helpu - doeddwn i ddim yn gorfod aros am slot gyda bydwraig gymunedol.

"Petai genedigaeth adref yn dod yn norm - dwin meddwl y byddai pobl yn meddwl mwy positif am y profiad."

Ffynhonnell y llun, Samantha Gadsden
Disgrifiad o’r llun,

Mae Samantha Gadsden wedi geni dau o'i phlant adref

Mae Samantha Gadsden o Gaerffili, sy'n gyfrifol am grŵp sy'n cefnogi y rhai sy'n rhoi genedigaeth adref, yn dweud bod "geni adref yn fwy pleserus".

Ychwanegodd: "Dyw mynd o'ch cartre'ch hun i amgylchedd ysbyty ddim yn creu'r awyrgylch ddelfrydol ar gyfer geni."

Dywedodd hefyd bod angen a modd mynd i ysbyty petai problemau gyda'r cyfnod esgor a bod argyfyngau sy'n peryglu bywyd yn brin.

Y canrannau sy'n rhoi genedigaeth adref fesul bwrdd iechyd

Abertawe a Bro Morgannwg - 2.9%

Aneurin Bevan - 1.6%

Betsi Cadwaladr - 1.9%

Caerdydd a'r Fro - 2.3%

Cwm Taf - 1.1%

Hywel Dda - 3.7%

Powys - 8.4%

Dywedodd Lynn Hurley, prif fydwraig Hywel Dda y bydd y sachau - a fydd yn cael eu defnyddio o fis Ebrill ymlaen - yn hybu "gwasanaeth diogel o safon" ac mai'r nod yw dosbarthu'r sachau ar draws Cymru.

Ychwanegodd Judy Ledger, prif weithredwr a sefydlydd elusen Baby Lifeline: "Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn sicrhau bod cynnwys y sachau yn cael ei adolygu ac yn gyfredol".

Dywedodd Bwrdd Iechyd Powys, y sir lle mae y rhan fwyaf yn rhoi genedigaeth adref, bod merched yn tueddu i weld yr un fydwraig yn ystod beichiogrwydd er mwyn datblygu perthynas dda i drafod opsiynau geni a'i bod hi'n bosib i ferched gael apwyntiadau cyn-geni adref."