'Swyddog carchar wedi cael rhyw gyda charcharor'
- Cyhoeddwyd

Ymddangosodd Emily Watson yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug wedi'i chyhuddo o gamymddwyn proffesiynol
Cafodd swyddog carchar berthynas rywiol gyda charcharor, yn ôl yr hyn glywodd llys ynadon ddydd Llun.
Mae Emily Watson, 26 oed o Huddersfield, wedi cael ei chyhuddo o gamymddwyn proffesiynol am gael perthynas gyda John McGee, sy'n garcharor yng ngharchar Berwyn yn Wrecsam.
Mae Mr McGee, o Lerpwl, yn y carchar am achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Clywodd Llys Ynadon Yr Wyddgrug eu bod wedi cynnal y berthynas o Hydref 2017 tan ddiwedd Ionawr 2018.
Ni wnaeth Ms Watson roi ple, ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 12 Ebrill.